Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans MS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwyf yn lansio ymgynghoriad ar yr ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yng Nghymru a fydd yn dod i rym yn 2023, yn unol â'r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr.  Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am brisio'r holl eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion cyfrifo biliau ardrethi.

Prif ddiben ailbrisio, a’r gwaith cysylltiedig o bennu’r lluosydd, yw addasu atebolrwydd eiddo o'i gymharu ag eiddo eraill yn sylfaen drethi'r Ardrethi Annomestig. Mae hyn yn sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei ledaenu'n deg rhwng trethdalwyr a'i fod yn seiliedig ar werthoedd rhentu cyfredol.  Mae hyn, yn ei dro, yn sicrhau bod meddianwyr pob eiddo annomestig yng Nghymru yn talu eu cyfran deg o ardrethi yn seiliedig ar y gwerthoedd diweddaraf.

Mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith i bennu gwerthoedd sylweddol newydd i bob eiddo annomestig yng Nghymru yn seiliedig ar werthoedd rhentu amcangyfrifedig ar y Dyddiad Prisio Rhagflaenol sef 1 Ebrill 2021.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn defnyddio tri dull ar gyfer cyfrifo gwerth ardrethol eiddo yn dibynnu ar y dystiolaeth sydd ar gael.  Defnyddir un o'r rhain, Sail y Contractwr, ar gyfer eiddo arbenigol lle nad oes tystiolaeth ar gael am y gwerth rhent. Mae tua 6,000 o eiddo annomestig yng Nghymru yn cael eu prisio yn uno â Sail y Contractwr.  Mae'r eiddo hyn yn cynnwys cyfleustodau, ysgolion, ysbytai, diwydiant trwm, gorsafoedd tân a heddlu, a meysydd awyr ymhlith eraill.

Mae'r gyfradd ddatgyfalafu yn rhan allweddol o ddull prisio Sail y Contractwr. Ffigur canrannol ydyw a ddefnyddir i drosi gwerth cyfalaf yn werth rhent blynyddol.   Mae’n sicrhau bod costau a manteision bod yn berchen ar eiddo, o'i gymharu â rhentu eiddo, yn cael eu hystyried wrth gyfrifo gwerth ardrethol eiddo.  Ers 1990, mae'r gyfradd ddatgyfalafu wedi'i rhagnodi mewn deddfwriaeth ar gyfer pob ailbrisio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad technegol i gasglu barn ynghylch a ddylai cyfraddau ddatgyfalafu gael eu rhagnodi mewn deddfwriaeth, faint o gyfraddau y dylid eu rhagnodi a sut y dylid cyfrifo unrhyw gyfraddau.  Hoffem hefyd gael barn ar gymhwyso cyfraddau ddatgyfalafu ar gyfer ailbrisiadau yn y dyfodol.  Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 16 Mehefin 2021.