Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw’n cyhoeddi ymgynghoriad technegol chwe wythnos ar Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 drafft.

Bwriad y rheoliadau yw atal apeliadau ardrethu annomestig sy’n nodi bod Newid Perthnasol mewn Amgylchiadau wedi digwydd mewn perthynas ag eiddo, o ganlyniad i amodau a chyfyngiadau masnachu Covid-19.  Ar 7 Gorffennaf 2021, cyhoeddais gynlluniau i ddeddfu yn y maes hwn ac, yn amodol ar amserlenni, bydd y rheoliadau hyn yn gymwys cyn i'r Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) ddod yn gyfraith

Fel y nodwyd yn fy natganiad blaenorol, byddai apeliadau o'r fath yn arwain at roi symiau sylweddol o gymorth trethdalwyr i fusnesau sydd wedi gallu gweithredu fel arfer drwy gydol y pandemig ac i fusnesau sydd wedi elwa ar y rhyddhad ardrethi ychwanegol a ddarparwyd gennym.  Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r pecyn o gymorth i gymunedau a busnesau fel rhan o'n cyllideb a'n cynlluniau gwariant.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agored am chwe wythnos ac yn cau ar 27 Medi 2021.  Mae'n gofyn am farn dechnegol ei natur ynghylch drafftio'r ddeddfwriaeth ac yn gofyn am unrhyw sylwadau eraill ar y rheoliadau.  Wedi’r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol a'i nod yw gwneud y rheoliadau yn yr hydref.  

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://llyw.cymru/rheoliadau-prisio-ar-gyfer-ardrethu-cymru-coronafeirws-2021-drafft

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.