Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi ymgynghoriad technegol 12 wythnos ar Reoliadau drafft Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023.

Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau y bwriedir iddynt mynd i'r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi yn y system ardrethi annomestig. Bydd y rheoliadau hyn yn deddfu un o'r mesurau hynny, drwy roi pŵer cyfreithiol newydd i'r awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth gan rai trydydd partïon. Bydd hyn yn helpu'r awdurdodau i gyflawni eu rôl wrth filio a chasglu ardrethi annomestig. Rydym yn parhau i archwilio sut y gellir defnyddio mesurau eraill i sicrhau bod yr ardrethi annomestig yn cael eu casglu mor effeithiol a theg â phosibl.

Mae ardrethi annomestig yn darparu ffrwd refeniw hanfodol sy'n cyfrannu at gostau gwasanaethau llywodraeth leol, gwasanaethau yr ydym i gyd yn elwa arnynt.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 12 wythnos ac yn cau ar 16 Medi 2022. Mae'n gofyn am safbwyntiau o natur dechnegol ynghylch drafftio'r ddeddfwriaeth ac am unrhyw sylwadau eraill am y rheoliadau. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau technegol angenrheidiol ac mae'n anelu at wneud y rheoliadau mewn pryd iddynt gychwyn o 1 Ebrill 2023. 

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn:

https://llyw.cymru/rheoliadau-ardrethu-annomestig-drafft-i-fynd-ir-afael-thwyll-ac-osgoi-talu-trethi