Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad technegol, a fydd yn para 6 wythnos, ar fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 (‘y Rheoliadau drafft’).

Rhwng 9 Mawrth a 1 Mehefin 2022, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnig i wneud is-ddeddfwriaeth a fyddai'n egluro'r amgylchiadau pan ddylid trin dwy neu ragor o unedau o eiddo fel un o fewn y system ardrethi annomestig, mewn pryd ar gyfer dechrau rhestr ardrethu 2023.

Ar 24 Mehefin 2022, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw a chyhoeddi y byddai rheoliadau'n cael eu llunio i roi’r cynnig yr ymgynghorwyd arno ar waith.

Bydd yr ymgynghoriad technegol hwn ar agor am gyfnod o chwe wythnos, gan gau ar 16 Medi 2022. Mae’n gofyn am farn ar eglurder y Rheoliadau drafft ac am unrhyw sylwadau eraill amdanynt. Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau drafft. Y nod yw gwneud y Rheoliadau mewn pryd ar gyfer eu cychwyn ar 1 Ebrill 2023. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.