Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydw i’n cyhoeddi heddiw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar einsafbwynt polisi a ffefrir ar gyfer hydrogen. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yw un lle mae diwydiannau cynaliadwy’n cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i greu swyddi o ansawdd uchel a manteision eraill i’r cymunedau lle maent yn gweithredu.  Mae datgarboneiddio ein system ynni yn cyflwyno heriau enfawr, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd economaidd a lles sylweddol.  Wrth ddarparu eglurder ychwanegol ar ein polisi hydrogen a gwahodd diwydiant i archwilio dulliau arloesol a hyblyg ar gyfer cyrraedd y safon hydrogen carbon isel, rydym yn gobeithio manteisio ar yr holl fudd y gall hydrogen ei gynnig i Gymru.

 Mae potensial gan hydrogen i chwarae rhan sylweddol wrth gyflawni ein targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050.  Fodd bynnag, rhaid i’r   defnydd o hydrogen wneud cyfraniad clir a pharhaus at ddatgarboneiddio, proses bontio deg i bawb, a hyrwyddo ffyniant economaidd i Gymru.  Er mwyn cyflawni hynny rydym wedi datblygu cynnig polisi ar hydrogen sy’n datblygu ar y datganiad a wnaed i Senedd Cymru ar 15 Hydref 2024.

Mae defnydd o hydrogen sydd wedi'i dargedu'n briodol yn dechnoleg bwysig yn ein hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws cyflenwad ynni, trafnidiaeth a diwydiant.  Gall hydrogen ddarparu un o'r ychydig opsiynau i ddatgarboneiddio rhai o'r defnyddwyr ynni uchel mewn diwydiant a thrafnidiaeth. 

Fodd bynnag, mae'r ymgynghoriad yn cydnabod y gall dwysedd carbon hydrogen amrywio'n sylweddol, yn ddibynnol ar y broses o’i gynhyrchu a'i ddefnydd crai.  Felly, mae ein polisi arfaethedig yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol datgarboneiddio wrth wneud penderfyniadau.  Ein hamcan polisi yw cefnogi datblygiad seilwaith a chymwysiadau hydrogen newydd sy'n hwyluso cyfraniad cyflym na ellir ei wrthdroi at ddatgarboneiddio, gan gyflawni ein hamcanion llesiant ehangach hefyd.  Mae'r polisi yn annog hydrogen carbon isel, yn hytrach na rhagnodi dulliau cynhyrchu penodol.  Mae hyn yn rhoi'r rhyddid i'r diwydiant fod yn arloesol wrth ddatblygu cynigion. 

Mae ein polisi a ffefrir ar hydrogen wedi'i ddrafftio i ddarparu eglurder i ddiwydiant, datblygwyr, buddsoddwyr, yn ogystal ag awdurdodau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru, trwy annog buddsoddiad mewn prosiectau hydrogen sy'n amlwg yn cefnogi datgarboneiddio cynaliadwy. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir yn y tymor byr er mwyn galluogi pontio oddi wrth ddefnydd o danwydd ffosil yn y tymor hwy, a thuag at ffyniant i Gymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn ar hydrogen yn cyd-fynd â lansiad diweddar yr ymgynghoriad ar ddal, defnyddio a storio carbon oherwydd mewn llawer o achosion, bydd y technolegau yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Rwy'n gwahodd partïon â buddiant yn ein diwydiannau, ein prifysgolion, cyrff eraill y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r cyhoedd yn gyffredinol, i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar y pwnc pwysig hwn, a'n helpu i benderfynu sut i leihau allyriadau yng Nghymru yn y dyfodol.