Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Ar 4 Hydref, cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig fwriad y Llywodraeth i greu cenhedlaeth ddi-fwg a chynlluniau i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Rwy’n cefnogi’n llwyr unrhyw gamau i fynd i’r afael ag effeithiau dinistriol tybaco yng Nghymru ac rwy'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf. Os caiff y polisi cenhedlaeth ddi-fwg ei gyflwyno, bydd yn ei gwneud yn drosedd i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny. I bob pwrpas, felly, bydd yr oedran smygu yn cael ei godi’n raddol, flwyddyn ar y tro, er mwyn atal plant a anwyd ar ôl y dyddiad hwn rhag cael prynu sigaréts yn gyfreithlon byth. Argymhellodd Javed Khan OBE y newid hwn, yn ogystal â llawer o gynigion blaengar a phellgyrhaeddol eraill i wneud smygu yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, yn ei adolygiad annibynnol a gyhoeddwyd y llynedd. Ysgrifennais at Lywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi adolygiad Khan y llynedd i fynegi cefnogaeth glir Llywodraeth Cymru i fesurau i fynd i'r afael â fepio a defnyddio tybaco ymhlith pobl ifanc.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'm barn ar fepio ymhlith pobl ifanc, a'm pryder mawr ynghylch y cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r cynhyrchion hyn. Does dim lle i feps yn nwylo plant a phobl ifanc ac rwy’ wedi bod yn galw ers tro am gamau cadarn i’w hatal cael eu defnyddio'n amhriodol a chreu cenhedlaeth newydd sy’n gaeth i nicotin. O ran dyfeisiau untro, rwy'n falch bod gwledydd y Deyrnas Unedig wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd i daclo’r cynhyrchion hyn, sydd nid yn unig yn cael eu defnyddio fwyfwy gan blant a phobl ifanc, ond sydd hefyd yn hynod niweidiol i'n hamgylchedd.
Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â gwledydd eraill y DU i fwrw ymlaen â'r mesurau hyn gyda'n gilydd lle bo hynny'n bosibl. Mae'r ymgynghoriad a gyhoeddir heddiw yn nodi manylion y camau yr hoffem eu cymryd i greu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr ymgynghoriad hwn yn cael ei rannu'n eang â rhanddeiliaid sydd â diddordeb ledled Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau hefyd yn annog pobl i gyfrannu wrth inni geisio barn o bob cwr o’r DU ynghylch llunio’r polisïau hyn.
Os bydd y mesurau hyn yn llwyddiannus, rwy’n credu’n gryf ein bod ar fin dod â'r epidemig tybaco i ben a chadw e-sigaréts o ddwylo ein plant a'n pobl ifanc.