Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Cyhoeddir y Datganiad Ysgrifenedig hwn er mwyn hysbysu Aelodau’r Cynulliad o’m bwriad i gyflwyno Bil Cyfiawnder Ieuenctid. Credaf y gall deddfwriaeth ddarparu gwell cymorth i blant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Mae plant a phobl ifanc sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid yn rhai o'r bobl ifanc fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rydym i gyd yn gwybod bod manteision gwirioneddol yn deillio o'u hatal rhag dod yn rhan o’r system. Nid yn unig y byddwn yn eu diogelu rhag cael eu stigmateiddio a cholli cyfleoedd, ond ar yr un pryd byddwn yn diogelu ein cymunedau rhag trosedd.
Gwnaeth ein Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad i gyhoeddi ymgynghoriad ar gyfer darpariaeth cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a'r opsiynau ar gyfer gwella, gan gynnwys pa un a oes angen deddfwriaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar gynigion i wella gwasanaethau er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o'r System Cyfiawnder Ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan ohoni, yn cael eu diwallu'n well, rhwng 18 Medi 2012 ac 11 Rhagfyr 2012. Cafwyd 62 o ymatebion ysgrifenedig ffurfiol. Cynhaliwyd tri digwyddiad i randdeiliaid a fynychwyd gan 61 o bobl a chymerodd 55 o bobl ifanc ran mewn grwpiau ffocws. Heddiw, cyhoeddaf adroddiad cryno ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Ystyriodd y Papur Gwyrdd beth arall y gellid ei wneud i atgyfnerthu'r gwasanaethau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt er mwyn sicrhau bod pob partner yn fwy atebol am y plant a'r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o ddod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid neu sydd eisoes yn rhan ohoni.
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio'r broses o ddatblygu’r Bil Cyfiawnder Ieuenctid.