Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O Ebrill 2018 ymlaen, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli'r dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir, gan ddisodli treth dirlenwi a threth dir y dreth stamp y DU, a gesglir ar hyn o bryd gan Gyllid a Thollau EM. Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethu (Cymru) 2016 yn darparu fframwaith i ACC ar gyfer casglu’r trethi hyn.

Rwy’n falch i gyhoeddi heddiw ymgynghoriad ar fynediad Awdurdod Cyllid Cymru at bwerau troseddol i fynd i’r afael â throseddau’n ymwneud â threthi datganoledig

Ar hyn o bryd, mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio pwerau troseddol yng Nghymru i rwystro a mynd i’r afael â throseddau treth mewn perthynas â’r trethi sy'n cyfateb, (treth dirlenwi a threth dir y dreth stamp) ac mae ganddynt fesurau diogelu sydd wedi’u diffinio'n glir er mwyn sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn gymesur ac yn briodol. Rwyf o’r farn na ddylai ACC fod yn wahanol yn y cyswllt hwn.

Fodd bynnag, mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yn cydnabod na fydd gan ACC yr un ystod o gyfrifoldebau o ran trethi â'r rhai a gyflawnir gan Gyllid a Thollau EM. Felly, mae’r ymgynghoriad yn graddnodi'r pwerau arfaethedig i ACC yn ofalus.

Mae datganoli trethi yn creu dyletswyddau newydd, a bydd un ohonynt yn diogelu buddiannau dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith drwy fynd i’r afael â’r rhai a fyddai’n ceisio efadu eu dyletswyddau. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau ynghylch y mater pwysig hwn.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/pwerau-awdurdod-cyllid-cymru-er-mwyn-mynd-ir-afael-throseddau-trethi