Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i lansio’n hymgynghoriad, Rheoli maethynnau – Rheoli mewn ffordd gynaliadwy y modd y mae tail da byw yn cael ei wasgaru.

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ceisio mynd i’r afael â’r gweithgareddau amaethyddol sy’n achosi llygredd dŵr yng Nghymru. Mae’r mesurau’n helpu i ysgwyddo llawer o’n hymrwymiadau rhyngwladol a domestig ac i gynnal yr enw da sydd gan ffermwyr Cymru am eu safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned ffermio i ddefnyddio’r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer, gan dargedu’r gweithgareddau hynny rydyn ni’n gwybod sy’n achosi llygredd.

Daw Cam 2 y rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2023, ac eithrio’r terfyn nitrogen blynyddol fesul daliad o 170kg/ha o dail da byw a ddaw i rym ym mis Ebrill 2023.

Rydyn ni’n ymgynghori ar gynllun trwyddedu lle gall busnes fferm wneud cais am drwydded i gynyddu’r terfyn nitrogen fesul daliad i hyd at 250kg/ha gan ddibynnu ar anghenion y cnwd ac ystyriaethau cyfreithiol eraill. Rydyn ni’n ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun fyddai mewn grym tan 2025.

Mae’r cynllun trwyddedu’n rhan o becyn o fesurau y cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru arno ym mis Hydref i hwyluso’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithredu i leihau llygredd amaethyddol.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Chwefror 2023 a hoffwn wahodd pawb sydd â barn i ystyried ein cynigion. Gan ddisgwyl ymlaen yn fawr at glywed eich barn.