Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae alcohol yn un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru.  Mae'n arwain at niwed i iechyd a niwed cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer y lleiafrif o bobl sy’n goryfed. Yn 2017, bu 540 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol ac yn 2017-18, bu bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae modd osgoi pob marwolaeth a phob derbyniad i'r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Rydym wedi bod yn glir ers tro fod rhaid i ymyriad prisio fod yn rhan allweddol o’n strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, yn enwedig oherwydd bod alcohol wedi mynd yn llawer mwy fforddiadwy dros yr ugain mlynedd diwethaf. Cefnogodd y Cynulliad Cenedlaethol isafbris uned ym mis Mehefin, pan basiwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y llynedd. 

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 wedi'i hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau alcohol uchel. Mae'n darparu fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned. Mae hyn yn caniatáu inni i dargedu gwerthiant a chyflenwad alcohol rhad a chryf.

Mae'r Ddeddf yn nodi y bydd yr isafbris uned yn cael ei bennu mewn rheoliadau. Cyn gosod y rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ymgynghorwyd yn ddiweddar ar isafbris uned a ffefrir o 50c. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi crynodeb o'r 148 o ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law.

Gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ffactorau eraill, rydym yn dal o'r farn bod isafbris uned o 50c yn ymateb cymesur i fynd i'r afael â risgiau yfed gormod o alcohol i iechyd - a bod  isafbris uned o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y buddion disgwyliedig i iechyd y cyhoedd ynghyd â'r buddion cymdeithasol ac ymyrraeth yn y farchnad. 

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gosod rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn pennu'r lefel, i'w hystyried gan y Cynulliad.   Yn y cyfamser, bydd cynlluniau ar gyfer rhoi'r lefel ar waith yn parhau.

Cyn i'r lefel gael ei rhoi ar waith, bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda manwerthwyr a rhanddeiliaid eraill i bennu manylion terfynol canllawiau, deunydd cyfathrebu a dogfennau ategol i helpu pobl i baratoi. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r awdurdodau lleol a Phenaethiaid Safonau Masnach yng Nghymru ar gynlluniau i arolygu a gorfodi'r ddeddfwriaeth. Byddwn hefyd yn rhoi ein cynlluniau ar waith i werthuso'r ddeddfwriaeth, sy'n cael ei chomisiynu ar hyn o bryd. Yn ogystal, rydym yn cydnabod yn llawn pwysigrwydd parhau i rannu a rhoi cyhoeddusrwydd i nodau'r ddeddfwriaeth o ran iechyd y cyhoedd - ac rydym yn bwriadu datblygu ymhellach deunydd cyfathrebu ar y rhesymau polisi sy'n sail i bennu isafbris am alcohol a'i nod o leihau yfed peryglus a niweidiol.

Cyflwynodd llawer o ymatebion i'r ymgynghoriad sylwadau ar yr egwyddor o bennu isafbris a chodwyd pryderon hefyd ynghylch canlyniadau anfwriadol posibl cyflwyno isafbris uned am  alcohol. Rydym wedi nodi'r sylwadau hyn. Roedd y pryderon hyn yn canolbwyntio'n benodol ar yr effeithiau posibl ar grwpiau agored i niwed, cyllidebau aelwydydd, y risg o droi at sylweddau eraill a'r cynnydd posibl yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth gan wasanaethau. Byddwn yn parhau i ystyried y materion posibl hyn  – ac rydym wedi comisiynu ymchwil i edrych ar y risg o droi at sylweddau eraill. Adroddir ar hyn cyn y gwaith gweithredu. Ymhellach, yn Rhagfyr 2018, cyhoeddwyd cyllid ychwanegol o £2.4 miliwn ar gyfer 2019/20 ar gyfer y saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau rheng flaen lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud erioed fod pennu isafbris uned am alcohol yn rhan o strategaeth a dull gweithredu ehangach o ran lleihau camddefnyddio sylweddau. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogwyr sydd ar gael i leihau'r niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol, wrth inni ddatblygu a bwrw ymlaen â Chynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau. 

Mae'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma: https://beta.llyw.cymru/gosod-yr-isafbris-am-alcohol