Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r hawl i ryddid yn un o’n hawliau dynol mwyaf sylfaenol. Y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yw’r cynllun presennol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 er mwyn amddiffyn y rhai sydd heb y galluedd meddyliol i gydsynio i’w gofal a’u triniaeth lle mae hynny’n golygu cael eu hamddifadu o’u rhyddid. Yn 2019, pasiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio), a fydd yn diddymu’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ac yn eu disodli â’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.
Yn wahanol i’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (a oedd yn berthnasol i drefniadau mewn cartrefi gofal ac ysbytai ac i bobl 18 oed a hŷn yn unig), bydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn berthnasol ym mhob lleoliad ac i unrhyw un 16 oed a hŷn. Am y tro cyntaf, bydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid hefyd yn ymestyn i gartrefi pobl gan ddarparu diogeliadau cyfatebol ar gyfer unigolion wrth barchu eu mannau preifat. Bydd y mesurau diogelu newydd yn ymgorffori ac yn hyrwyddo Erthygl 5 (yr hawl i ryddid) ac Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol) o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Er bod Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn eiddo yn bennaf i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwygiadau fel rhan o ddull strwythuredig ac amserol o weithredu, yn seiliedig ar fframwaith hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu cynhwysfawr.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 yn darparu’r pwerau i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i fynd i’r afael â’r heriau a gydnabyddir yn eang sy’n gysylltiedig â system bresennol y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Yn ein Rheoliadau i Gymru, rydym wedi cysoni’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid gyda’n deddfwriaeth seiliedig ar hawliau yng Nghymru sy’n rhoi’r person wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn integreiddio ystyriaeth o’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn y trefniadau bob dydd ar gyfer gofal, cymorth neu driniaeth yn well, gan leihau dyblygu ac ailadrodd ar gyfer unigolion, eu teuluoedd a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Mae’r Rheoliadau Drafft i Gymru yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol o’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid; penodiad a rôl Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol; nodi pwy all gynnal asesiadau, gwneud penderfyniadau a chynnal adolygiadau cyn awdurdodi fel rhan o broses y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid; rôl a phenodiad y Gweithiwr Proffesiynol Galluedd Meddyliol Cymeradwy newydd; a monitro’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac adrodd arnynt. Rydym yn cyhoeddi nifer o Asesiadau Effaith drafft a byddwn yn defnyddio’r cyfnod ymgynghori i gasglu tystiolaeth bellach o effeithiau yng nghyswllt y Rheoliadau. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid ar ein cynigion ar gyfer monitro’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac adrodd arnynt (gan gynnwys Set Ddata Ofynnol Genedlaethol newydd), yn ogystal â’n Cynllun Gweithlu a Fframwaith Hyfforddiant drafft ar gyfer y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.
Mae pob un o’r cynhyrchion ymgynghori wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â chynrychiolwyr rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru drwy Grŵp Llywio Gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid i Gymru a ffrydiau gwaith ac is-grwpiau ategol ar weithlu a hyfforddiant; monitro ac adrodd; pobl ifanc 16 a 17 oed; a’r newid o’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid i’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i adolygu ac ymgysylltu yn fwy eang. Byddwn hefyd yn defnyddio’r ymgynghoriad i’n helpu i gynllunio ar gyfer y trefniadau pontio o ran newid o’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid i’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.
Mae’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Drafft i Gymru yn gydnaws ag ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Rheoliadau Drafft i Loegr a Chod Ymarfer newydd ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid i Gymru a Lloegr (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae’r Rheoliadau i Gymru a’r Cod Ymarfer yn mynd law yn llaw ac felly byddem yn annog pob rhanddeiliad yng Nghymru i hefyd ystyried ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Cod Ymarfer drafft ac ymateb iddo.
Rhaid datblygu strategaeth ariannu hirdymor ar gyfer yr Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yng Nghymru. Caiff hyn ei lywio gan yr ymgynghoriad a bydd yn dibynnu ar y rheoliadau terfynol a’r Cod Ymarfer. Cyn hyn, cytunwyd ar strategaeth ariannu Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys costau trosiannol o £8 miliwn ar gyfer yr Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn 2022/23. Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant, datblygu cynlluniau’r gweithlu, cynlluniau ar gyfer monitro ac adrodd, a gwell darpariaeth o rai rolau allweddol, megis Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol, cyn gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Strategaeth ariannu ddangosol Llywodraeth Cymru yw i’r cyllid hwn barhau yn 2023/24 a 2024/25, i gefnogi gweithredu yn y flwyddyn drosiannol a thu hwnt. Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bwriadau cynnar yw i gyllid ym mlynyddoedd dau a thri gynyddu hyd at £17m y flwyddyn, yn unol â’r costau disgwyliedig a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft.
Os ydym am fynd i’r afael â’r heriau presennol o fewn y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a sicrhau’r manteision a ragwelir yn sgil y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, mae’n hanfodol bod ymarferwyr mewn sefyllfa gref i newid o un system i’r llall. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU i bwysleisio’r negeseuon hyn wrth inni ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad a chynllunio ar gyfer gweithredu.
Yn y pen draw, mae cyflwyno’r diogeliadau newydd yn gyfle inni gryfhau ein sefyllfa yng Nghymru yn nhermau amddiffyn hawliau dynol y bobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Mae eich safbwyntiau a rhai eich etholwyr ar y Rheoliadau Drafft i Gymru felly yn hollbwysig.