Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau 

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gwnaeth yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru bedwar deg dau o argymhellion, a chafodd pob un ohonynt eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae Argymhelliad 5 o’r Adolygiad yn ein cynghori i greu un corff (sef Cymwysterau Cymru) i fod yn gyfrifol am reoleiddio a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd yng Nghymru, a hefyd dros amser, i fod yn gyfrifol am ddatblygu a dyfarnu’r rhan fwyaf o’r cymwysterau cyffredinol a gynigir.

Creu Cymwysterau Cymru fyddai’r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru a’i dysgwyr, nid yn unig fel myfyrwyr ond hefyd fel dinasyddion a gweithwyr cenedl ddwyieithog ac iddi economi a diwylliant cyfoethog ac amrywiol.

Felly, heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymwysterau Cymru, gan wahodd sylwadau ar y cynigion hynny. Rwy’n credu y byddant yn cryfhau ac yn symleiddio’r strwythur a ddefnyddir i reoleiddio a dyfarnu cymwysterau, gan hwyluso’r gwaith o ddatblygu cymwysterau sy’n berthnasol i anghenion Cymru.

Er mwyn diogelu cymwysterau dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn o newid, byddwn yn rhoi swyddogaethau Cymwysterau Cymru ar waith fesul cam. O fis Medi 2015, Cymwysterau Cymru, sef y corff annibynnol newydd a fydd yn annibynnol ar lywodraeth, fydd yn cyflawni’r swyddogaethau rheoleiddio y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd.  Ymhen amser, Cymwysterau Cymru fydd yn gyfrifol hefyd am ddyfarnu’r rhan fwyaf o gymwysterau cyffredinol a gynigir yng Nghymru. Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau dyfarnu, gan gynnwys CBAC, i ddatblygu ac adolygu Bagloriaeth Cymru a hefyd sefydlu un gyfres o gymwysterau TGAU a Safon Uwch ar gyfer Cymru.

Rwy’n ffyddiog y bydd y corff newydd yn gwneud y system yn gliriach, yn fwy cydlynol ac yn fwy sefydlog er mwyn datblygu cymwysterau sy’n berthnasol a chynhwysfawr ar gyfer dysgwyr Cymru.

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn y mae’r ymgynghoriad yn ei roi imi gael sylwadau rhanddeiliaid am y cynigion hyn, a bydd fy swyddogion yn mynd ati i ymgysylltu â nhw yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fy mwriad yw dod â deddfwriaeth ger bron y Cynulliad yn ystod y Tymor presennol sy’n darparu ar gyfer creu corff cymwysterau annibynnol.

Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru ac maent ar gael ar lein.