Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i sefydlu corff cymwysterau newydd ar gyfer Cymru ar 1 Hydref 2013. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 20 Rhagfyr 2013.
Gofynnodd yr ymgynghoriad 9 cwestiwn yn ymwneud â’r cynnig i sefydlu corff rheoleiddio annibynnol yng Nghymru hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Derbyniwyd 62 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd y cwestiynau’n ceisio cael adborth ar y dystiolaeth a oedd yn ategu’r cynigion, ar y weledigaeth a amlinellwyd yn y cynigion, ac ar y cynigion ar gyfer rhoi’r weledigaeth ar waith.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad ffurfiol, cynhaliwyd gwaith ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru mewn perthynas â’r cynigion i sefydlu’r corff ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014. Cymrodd 124 o blant a phobl ifanc ran mewn gweithdai ymgynghori wedi’u hwyluso a oedd yn gofyn cwestiynau am y cynnig i sefydlu’r corff newydd.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r digwyddiadau ymgysylltu a fydd yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru.
Rwyf wedi ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, ac mae’r rhain yn llywio datblygiad cynlluniau ar gyfer y corff cymwysterau cenedlaethol ar gyfer Cymru a’r Bil a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn.
Rwy’n parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn deall a gwerthfawrogi cymwysterau yng Nghymru a’u bod yn diwallu anghenion ein pobl ifanc a’n heconomi. Bydd creu corff newydd, Cymwysterau Cymru, yn atgyfnerthu ein dull o reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrwydd ansawdd cymwysterau.
Roeddwn yn falch bod y mwyafrif llethol o ymatebion yn cefnogi fy ngweledigaeth ar gyfer y corff newydd ar y cyfan a bod cynifer yn cynnig ein cynorthwyo i’w ddatblygu. Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen.
Cododd yr ymatebion i’r ymgynghoriad rai pwyntiau pwysig a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro sut yr ydym yn mynd i’r afael â’r rhain.
Mynegwyd amheuon am y swyddogaeth ‘ddyfarnu’, yn enwedig gan Gyrff Dyfarnu, ac roedd neges bendant am yr angen am linell derfyn dryloyw rhwng rheoleiddio a ‘dyfarnu’. Hoffwn nodi’n glir mai fy mwriad yw i’r corff newydd, yn y lle cyntaf, sicrhau ei fod yn datblygu, darparu a dyfarnu ei gyfres ei hun o gymwysterau ar gyfer Cymru drwy gomisiynu un neu fwy Corff Dyfarnu i ddarparu gwasanaethau ar ei ran. Wrth gwrs, bydd y Cyrff Dyfarnu hyn yn wynebu’r un drefn reoleiddio a sicrwydd ansawdd a Chyrff Dyfarnu sy’n darparu eu cymwysterau eu hunain yng Nghymru, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol. Yn y tymor hirach, rwy’n argyhoeddedig o rinweddau cael un corff sengl ar gyfer Cymru, ond ystyriaeth i’r dyfodol fydd hon.
Derbyniwyd y neges yn glir am bwysigrwydd cludadwyedd cymwysterau a’r angen i ddiogelu buddion dysgwyr. Roedd hi’r un mor amlwg bod angen cydweithio yng Nghymru gyda chyrff rheoleiddio eraill a meincnodi â gwledydd eraill. Gallaf gadarnhau bod cludadwyedd, buddion dysgwyr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn egwyddorion sy’n sail i’n diwygiadau. Yn benodol, fy mwriad yw i’r corff newydd fod â galluoedd ymchwil a pholisïau cadarn ac y bydd yn mynd ati i ddefnyddio ei dystiolaeth i annog arloesedd.
Roeddwn yn falch bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y bydd annibyniaeth, symleiddio a chryfhau rheoleiddio’n ei chael ar hyder y cyhoedd. Gwnaeth ymatebion y Bobl Ifanc argraff arbennig arnaf lle’r oedd y pryderon yn ymwneud llai â chyflwyno cymwysterau newydd a mwy am y gallai’r rhain achosi i gyflogwyr roi llai o werth ar y rhai sydd ar waith ar hyn o bryd. Byddaf yn lansio rhaglen gyfathrebu ar gyfer rhieni a dysgwyr yn yr hydref ac yn manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â’r pwynt hwn.
I gloi, nodais y ceisiadau am eglurder ynglŷn â rôl y corff newydd mewn perthynas â fframweithiau prentisiaethau a safonau galwedigaethol cenedlaethol. Gallaf gadarnhau y bydd gan y corff newydd rôl, ond bod gwaith pellach yn cael ei wneud i bwyso a mesur sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai ymgynghori.