Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Hoffwn roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad fy mod yn lansio ymgynghoriad ffurfiol heddiw, a fydd yn para am 12 wythnos, ar gynigion i ddiwygio’r ffordd y mae dyddiadau tymhorau ysgol yn cael eu pennu ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Rwyf am ddod o hyd i ffyrdd o helpu’r teuluoedd hynny yng Nghymru sy’n cael problemau oherwydd yr amrywiadau yn nyddiadau tymhorau ysgol ledled Cymru, ac felly hefyd ddyddiadau gwyliau ysgol.

Ar hyn o bryd, yr awdurdodau lleol sy’n pennu dyddiadau tymhorau ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion meithrin, tra mai’r cyrff llywodraethu sy’n gwneud hynny yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig. Nid oes cyfrifoldeb cyfreithiol ar y naill na’r llall i gydweithio er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru. Hefyd, aflwyddiannus hyd yma fu’r ymdrechion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gysoni’r dyddiadau tymhorau hynny a bennir gan awdurdodau lleol.

Gall dyddiadau tymhorau gwahanol beri problemau i rai teuluoedd, gan gynnwys anawsterau wrth ddod o hyd i ofal plant, yn ogystal â’r her o dalu costau ychwanegol am ofal plant. Er enghraifft, yn ystod rhai blynyddoedd, mae’n bosib y bydd gwyliau’r Pasg yn wahanol iawn yn achos teuluoedd lle mae un rhiant/gofalwr yn addysgu mewn ysgol a gynhelir gan un awdurdod lleol a lle mae’r plant yn mynychu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol arall. Yn ei dro, gall hyn olygu bod yn rhaid i’r teulu ddod o hyd i ragor o ofal plant, a thalu amdano. Gall problemau tebyg godi pan fo gan deulu aelodau mewn gwahanol fathau o ysgolion, a dyddiadau tymhorau ysgolion hynny’n wahanol i’w gilydd.

Gan gadw hyn mewn cof, fy mwriad yw cysoni dyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel bod yr amrywiadau yn codi yn achlysurol iawn a dim ond pan fydd modd eu cyfiawnhau’n llawn.

Rwyf yn cynnig y gwneir hyn drwy osod dyletswydd gyfreithiol i gydweithio ar y sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldeb ar hyn o bryd am bennu dyddiadau tymhorau, fel eu bod yn cymryd camau rhesymol i gytuno ar ddyddiadau tymhorau ysgol ledled Cymru. Ar gyfer adegau pan na yw hyn yn digwydd, neu ar gyfer achosion pan fo rheswm da dros feddwl bod angen addasu’r dyddiadau y cytunwyd arnynt, rwyf yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd er mwyn sicrhau bod dyddiadau priodol yn cael eu pennu.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Llun 26 Tachwedd 2012. Ymhlith eraill, byddwn yn ymgynghori ag awdurdodau lleol ac esgobaethol, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, plant a phobl ifanc ac eraill sydd â budd yn y mater. Mae fersiwn i blant wedi ei pharatoi o’r ddogfen ymgynghori.  Mae’r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr Aelodau yn cael gwybod rhag blaen am yr ymgynghoriad. Petai’r Aelodau eisiau imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar y mater hwn wedi i’r Cynulliad ailymgynnull, byddwn yn fodlon iawn gwneud hynny.