Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwyf heddiw yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ddiwygio rhannau o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017 sy'n llywodraethu rhai rhyddhadau treth trafodiadau tir. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y rhyddhadau hynny sy'n ymwneud â thrafodiadau anheddau lluosog, a phrynu eiddo a fwriedir ar gyfer tai cymdeithasol. Y bwriad yw cyhoeddi'r ddogfen ymgynghori, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut i ymateb, cyn diwedd toriad y Pasg. Rwy’n annog pob un sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 19 Mai. Wedi i’r ymgynghoriad orffen, byddaf yn rhoi yr ystyriaeth briodol i’r atebion cyn cyhoeddi adroddiad arnynt.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn er mwyn hysbysu aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.