Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy’n falch o gyhoeddi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei lansio ar gyfradd is y dreth gwarediadau tirlenwi (LDT). Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y newidiadau posibl i gyfradd is y dreth gwarediadau tirlenwi er mwyn cynnig cymhelliant pellach i ailgylchu ac ailddefnyddio ac i leihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
Roedd yr adolygiad annibynnol o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2023, yn darparu dealltwriaeth fwy treiddgar o’r cyfleoedd i’w hystyried ar gyfer datblygu diben y dreth ymhellach. Canfu’r adolygiad hefyd fel a ganlyn:
- bod sawl ffrwd wastraff lle nad yw cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer atal yr arfer o anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi
- bod tystiolaeth bod y bwlch rhwng cyfradd is a chyfradd safonol y dreth gwarediadau tirlenwi wedi cyfrannu at gamddisgrifio gwastraff
Ers y cyhoeddiad, mae swyddogion o Lywodraeth Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio i ddeall y mater o gamddisgrifio gwastraff a’r opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â chamddisgrifio o’r fath, gan arwain at ddatblygu’r ymgynghoriad hwn.
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys prosiect i gael gwell dealltwriaeth o beth yn union yw camddisgrifio, ym mha ran o’r broses gwastraff y mae hyn yn digwydd, a beth yw’r ysgogwyr a’r cymhellion allweddol sy’n peri i bobl gamddisgrifio gwastraff. Ysgrifennais cyn hyn i’r Pwyllgor Cyllid, ar 18 Hydref 2023, i hysbysu’r pwyllgor ynghylch y gwaith hwn.
Rwy’n annog pawb sydd â buddiant i ymateb i’r ymgynghoriad. Bydd yr ymgynghoriad ar agor am wyth wythnos, gan gau ar 15 Medi 2024. Ar ôl i’r ymgynghoriad gau, byddaf yn rhoi’r ystyriaeth ddyledus i’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad.