Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i ddarparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau cymwys o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru, a fyddai'n cynnwys unrhyw borthladdoedd rhydd yn y dyfodol.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd y Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn fel y cynigwyr llwyddiannus i symud ymlaen i'r cam Achos Busnes Amlinellol ar gyfer statws porthladd rhydd. Mae'r ddau gynigydd yn bwrw ymlaen â'u hachosion busnes priodol.
Bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn darparu cymhellion treth a thollau tramor i fusnesau newydd sy'n sefydlu eu hunain yn ardal y porthladd rhydd neu i fusnesau presennol yn ardal y porthladd rhydd sy'n ehangu eu gweithrediadau. Mae'r cymhellion treth yn cynnwys rhyddhad wedi'i dargedu rhag cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a lwfansau cyfalaf uwch - y ddwy yn dreth a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Bydd cymhellion treth hefyd yn cael eu darparu ar gyfer ardrethi annomestig a threth trafodiadau tir - dau mater sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru a'r Senedd.
Mae cymhellion treth porthladd rhydd, gan gynnwys y rhyddhad treth trafodiadau tir arfaethedig, yn gymhellion allweddol i effaith y Rhaglen ac fe'u lluniwyd gyda'r bwriad o helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.Rhagwelir y bydd angen i'r rhyddhadau treth fod ar waith os cymeradwyir yr achosion busnes ac y dynodir y safleoedd treth. Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd ar ddechrau 2024.
Felly, rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 18 Chwefror 2024. Ar ôl i'r ymgynghoriad gau, byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i'r holl ymatebion ac yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad. Fy nod yw gosod yr offeryn statudol drafft gerbron y Senedd i'w gymeradwyo cyn gynted â phosibl ar ôl i'r ymgynghoriad gau, i gyd-fynd â dynodi'r safleoedd treth ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.