Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Chanllawiau – drafft rhwng 30 Mai a 13 Medi 2019. Mae'r ddogfen sy'n crynhoi'r themâu allweddol o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad hwnnw ac ymatebion Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Diben yr ymgynghoriad oedd gofyn am farn ar Reoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a chanllawiau drafft. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi dyletswyddau statudol yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Y bwriad yw i'r Rheoliadau a'r canllawiau hyn ddarparu fframwaith ar gyfer cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sy'n gyson â'r twf mewn disgwyliadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Cafwyd cyfanswm o 72 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth o sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd gan gynnwys awdurdodau lleol. Yn ogystal, cynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgysylltu yng Ngheredigion, Conwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf. Mynychodd tua 100 o bobl y digwyddiadau ymgysylltu a oedd hefyd yn cynnwys trafodaethau ar hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a'r manteision sy'n ymwneud â dwyieithrwydd. At hynny, cynhaliwyd sesiwn i bobl ifanc yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gydag aelodau o Fwrdd Syr IfanC.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynigion a gyflwynwyd yn y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft arfaethedig.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn ac i aelodau’r Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg mewn addysg am eu gwaith rhwng Mai 2018 – Mawrth 2019.
Ein bwriad nawr yw gosod y Rheoliadau drafft ym mis Rhagfyr 2019.
Gellir dod o hyd i’r ddogfen Ymgynghoriad - Crynodeb o’r ymatebion: Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Chanllawiau drafft ar: