Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ yng nghael ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth y DU.
Smygu sy'n achosi chwarter o’r holl farwolaethau canser yn y Deyrnas Unedig; mae'n gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn yn ogystal ag afiechyd, anabledd ac anghydraddoldeb.
Gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai smygwyr i'w helpu i roi'r gorau i smygu, ond mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n fepio wedi treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw’r niwed hirdymor y gallent ei achosi yn hysbys ar hyn o bryd, mae fêps yn peri risg o niwed i iechyd plant a phobl ifanc ynghyd â risg o ddibyniaeth.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar nifer o gynigion:
- Creu cenhedlaeth ddi-fwg, drwy godi oedran gwerthu cynhyrchion tybaco fesul blwyddyn, bob blwyddyn
- Mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys cyfyngu ar flasau fêps, rheoleiddio arddangosfeydd yn y man gwerthu a rheoleiddio deunyddiau pecynnu fêps a'r ffordd y mae'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno
- Cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu fêps tafladwy oherwydd pryderon amgylcheddol
- Cryfhau mesurau gorfodi
Yn Araith y Brenin ar 7 Tachwedd, nododd Ei Fawrhydi y Brenin Charles III gynlluniau i Lywodraeth y DU gyflwyno'r Bil Tybaco a Fêps yn y sesiwn seneddol hon.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr ac fe gafwyd 27,921 o ymatebion. Daeth 1,018 o’r ymatebion hyn o Gymru ac rwy'n ddiolchgar i bawb o Gymru a gyfrannodd. Mae dogfen ymateb y llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw yn nodi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r mesurau y bydd y pedair llywodraeth nawr yn eu cyflwyno ar y materion hyn.
Felly, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêps cyn gynted â phosibl a fydd yn cymryd camau i:
- Newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal) ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybuddio
- Cyflwyno pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar flasau, man gwerthu a phecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotin) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
- Cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar gyfyngu ar gyflenwi a gwerthu cynhyrchion fêps tafladwy. Yn dilyn yr ymatebion a gafwyd ac yng ngoleuni pryderon sylweddol ynghylch effaith y cynhyrchion hyn ar yr amgylchedd, bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Llywodraeth ganolog a Llywodraeth yr Alban, yn cyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl i weithredu gwaharddiad ar fêps tafladwy, gan gynnwys cynhyrchion sy'n cynnwys nicotin a chynhyrchion heb nicotin. Y bwriad yw y bydd unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir yn caniatáu cyfnod gweithredu o chwe mis o leiaf, sy'n ystyried pryderon y bydd angen amser ar y diwydiant i addasu. Mae Gogledd Iwerddon yn cydnabod y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a bydd yn ystyried deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.
Bydd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio ar yr holl fesurau hyn i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn dull mor gyson â phosibl ledled y DU, cyn belled ag y bo modd. Rwyf o'r farn mai drwy ddatblygu'r meysydd hyn gyda'i gilydd y ceir y budd mwyaf o ran diogelu iechyd y cyhoedd rhag niweidiau tybaco ac y llwyddir i leihau fepio ymhlith pobl ifanc.