Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae gan bob plentyn hawl sylfaenol i gael addysg, ac mae dyletswydd ar rieni plant oedran ysgol gorfodol i sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg briodol. Mae llawer o ddatblygiad cynnar y plentyn yn digwydd yn gyfan gwbl yn y cartref. Wrth i’r plentyn dyfu a datblygu, mae’r rhan fwyaf o rieni’n dewis ei anfon i’r ysgol. Fodd bynnag, mae rhai’n dewis addysgu eu plentyn yn y cartref.
Welsh Government Ministers have duties to ensure compliance with the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure. Mae gan Gweinidogion Llywodraeth Cymru dyletswydd i sicrhau cydymffurfiaeth gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Rwyf o’r farn nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â’r dewis i addysgu plentyn yn y cartref yn ddigon cynhwysfawr, gan nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol, ar hyn o bryd, sy’n gofyn i’r rhiant roi gwybod i’r awdurdod lleol bod plentyn yn cael addysg yn y cartref. Oherwydd hynny, mae’n anodd iawn i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg briodol. Felly, rwy’n awyddus i gyflwyno system cofrestru a monitro gorfodol ar gyfer plant y mae eu rhieni’n addysgu yn y cartref.
Nid atal plant rhag cael eu haddysg yn y cartref yw bwriad cynigion yr ymgynghoriad hwn. Yn hytrach eu nod yw sicrhau bod y plant hyn yn cael addysg briodol. Nid yw’n ofynnol i addysgwyr yn y cartref ddilyn cwricwlwm arbennig na mabwysiadu unrhyw ddulliau a ddefnyddir yn yr ysgol. Nid yw’n ofynnol ychwaith i’r plant sefyll arholiadau neu asesiadau cenedlaethol. Nid yw’r cynigion yn newid hyn. Fodd bynnag, o dan y gyfraith, mae’n ofynnol i rieni sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg amser llawn sy’n addas i’w oedran, ei ddawn a’i allu, a hefyd unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo. Bydd yr wybodaeth a gesglir fel rhan o’r broses gofrestru yn caniatáu i awdurdodau lleol asesu a yw’r gofyniad cyfreithiol yn cael ei fodloni.
Rwy’n credu bod llwyddiant y cynigion hyn yn dibynnu ar ein gallu i ddefnyddio’r pwerau sy’n bodoli eisoes i ddatblygu cyfarwyddyd statudol sy’n nodi’r arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol wrth iddynt weithio gyda theuluoedd sy’n addysgu eu plant yn y cartref, gan annog awdurdodau lleol a rhieni sy’n addysgu yn y cartref i gydweithio er lles addysgol y plentyn. Rwy’n cydnabod yr angen i fod yn fwy eglur o ran yr hyn a olygir wrth ‘addysg briodol’ yng nghyd-destun yr amrywiaeth o ddulliau addysgu a ddefnyddir wrth ddarparu addysg yn y cartref. Cyhoeddir canllawiau statudol ar gyfer hyn, a chynhelir ymgynghoriad ar wahân ar hynny.
Bydd yr ymgynghoriad ar cofrestru a monitro addysg yn y cartref ar agor am gyfnod o 12 wythnos, a gofynnir am unrhyw ymatebion erbyn 23 Tachwedd 2012. Anfonir y ddogfen ymgynghori at awdurdodau lleol, addysgwyr yn y cartref, sefydliadau sy’n cynrychioli teuluoedd sy’n addysgu yn y cartref a sefydliadau sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc. Mae’r ymgynghoriad hefyd ar agor i sylwadau gan y cyhoedd trwy dudalennau ymgynghoriad wefan Llywodraeth Cymru. Yn ychwanegol, cynhelir rhai gweithdai hefo hwyluswyr er mwyn casglu sylwadau plant a phobl ifanc ar y cynigion.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y gwyliau er mwyn sicrhau bod yr aelodau’n cael gwybodaeth gyson. Os bydd unrhyw aelod am ofyn imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn ar ôl i’r Cynulliad ailymgynnull, byddaf yn hapus i wneud hynny.