Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ym mis Mawrth cyhoeddais ymgynghoriad ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad annibynnol Richard Penn o fframwaith safonau moesegol llywodraeth leol ("y fframwaith")
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod y fframwaith presennol yn 'addas at ei ddiben' a’i fod yn gweithio'n dda yn ymarferol. Fodd bynnag, awgrymwyd y gallai gwneud rhai newidiadau arwain at fwy o bwyslais yn y Fframwaith ar atal cwynion, gwella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion a sicrhau bod y safonau moesegol yn cael eu gwella ymhellach.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar nifer fach o faterion a gafodd eu codi wedyn mewn trafodaethau â rhanddeiliaid.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Crynodeb o Ymatebion i'r Ymgynghoriad. Cafwyd 31 o ymatebion i’r ymgynghoriad ac rwy'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd am ystyried y materion a mynegi eu barn. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth eang i’r cynigion.