Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf yn lansio ymgynghoriad ar y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer Grantiau Llywodraeth Cymru ym meysydd Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol ar gyfer 2013 - 2016.

Bu newidiadau lu ers i'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb a'r Grant Cynhwysiant gael eu cyflwyno yn 2010. Mae angen i’r fframwaith newydd ar gyfer grantiau adlewyrchu ac ymateb i'r amgylchedd newydd rydym yn byw ynddo.  

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar adeg anodd iawn. Ni welwyd erioed y fath bwysau ar y pwrs cyhoeddus. Rydym eisiau clywed barn y trydydd sector a sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater er mwyn sicrhau bod ein cyllid grant ym meysydd cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol ar gyfer 2013-16 yn arwain at y canlyniadau gorau posibl.

Nodiadau:
Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos. Mae'r ddogfen ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.