Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amserlen ar gyfer Cylch 1 a Chylch 2 Safonau’r Gymraeg.

Yn unol â’r amserlen honno, mae’n bleser gennyf heddiw lansio’r rheoliadau drafft a fydd yn gwneud y safonau ar gyfer Cylch 1.  Wrth eu drafftio, rydym wedi gwrando ar farn y cyhoedd, y sefydliadau a fydd yn destun iddyn nhw, ac ar Gomisiynydd y Gymraeg, a ddarparodd adborth ar ffurf tri adroddiad a nodyn cyngor.  Bydd cyfnod ymgynghori pedair wythnos yn dilyn, a fydd yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn y safonau ddweud eu dweud ar y rheoliadau drafft.  Daw’r ymgynghoriad i ben ar 5 Rhagfyr 2014. Dilynwch y linc i gyrraedd y dogfennau ymgynghori.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, a’u diben yw gosod lefel gyson o wasanaeth y gall siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ddisgwyl eu derbyn. Bydd hyn yn creu hawliau pendant, ac yn golygu bod sail gyfreithiol am y tro cyntaf i’r hyn y mae’n ofynnol i sefydliadau ei ddarparu yn Gymraeg.

Cafodd y safonau eu drafftio gyda’r nod o:

  • wella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn Gymraeg  
  • cynyddu’r defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg  
  • ei gwneud yn eglur i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud mewn perthynas â’r Gymraeg    
  • sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau. 
Bydd safonau Cylch 1 yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2015.