Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ledled y DU, amcangyfrifir y bydd gan dri o blant mewn dosbarth canolig ei faint broblem iechyd meddwl. Mae data o'r ystadegau (Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc: Medi 2017 i Awst 2018) diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 11,365 o bobl ifanc wedi cael eu cwnsela yn ystod 2017-18. Mae hi'n bwysicach nag erioed nawr fod ein dysgwyr yn gallu cael gafael ar wasanaeth cwnsela da yn gynnar ac yn ddidrafferth gan fod prawf fod hynny'n helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu fynd yn fwy difrifol.

Mewn cydnabyddiaeth o'r effaith wanychol y gall problemau iechyd meddwl ei chael ar blant a phobl ifanc, sefydlwyd gweithgor gennym. Mae'r gweithgor yn cynnwys arweinwyr cwnsela awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cwnsela a chynrychiolwyr o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain, a'u tasg yw adolygu'r 'Pecyn Cymorth Gweithredu Cwnsela mewn Ysgolion', a gyhoeddwyd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain yn 2011.

Mae'n bleser mawr gen i heddiw i lansio'r ymgynghoriad ar y 'Pecyn Cymorth Gweithredu Drafft ar gyfer Cwnsela mewn Ysgolion a Chymunedau'. Mae'r ymgynghoriad i'w weld yma:

Pecyn cymorth drafft ar gyfer gweithredu gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion ac yn seiliedig ar y gymuned

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 18 Rhagfyr 2019.

Mae'r pecyn diwygiedig yn adlewyrchu newidiadau amrywiol a wnaed ers i'r canllawiau gwreiddiol gael eu cyhoeddi, newidiadau i'r gyfraith a pholisi er enghraifft, cynnydd yn y ddarpariaeth gwnsela i blant a phobl ifanc yn y gymuned, a'r defnydd o gwnsela ar-lein.  Mae'n cynnwys safonau a chanllawiau diwygiedig i gwnselwyr a gwasanaethau cwnsela. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ddarparwyr cwnsela mewn ysgolion ac, yn gynyddol felly, o fewn y gymuned ehangach, ddarparu gwasanaethau sydd o ansawdd uchel, yn ddiogel, yn hawdd cael gafael arnynt ac ar gael lle mae eu hangen.

Mae ein gwasanaeth cwnsela yn elfen bwysig o'n gwaith i wella a sefydlu dulliau ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol.  Fodd bynnag, rwy'n gwybod bod lle i'r gwasanaeth wella rhagor, a dyma pam rydyn yn ystyried datblygu darpariaeth ar-lein i ategu gweithgaredd wyneb yn wyneb.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol o £626,000 a fydd ar gael i awdurdodau lleol yn y flwyddyn bresennol i fynd i'r afael â rhestrau aros am y gwasanaeth hwn ac i feithrin trefniadau cydweithio â darparwyr eraill gwasanaethau cwnsela a gwasanaethau cyflenwol fel y rhai a gynigir gan y GIG. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o welliannau llawer ehangach rydym wrthi'n eu gwneud, ee drwy ein cynlluniau peilot CAMHS o fewn ysgolion sydd wedi derbyn cyllid o dros £1.4 miliwn gennym. Rwy'n disgwyl y bydd canfyddiadau rhagarweiniol y gwaith gwerthuso ynghylch sut y mae'r cynlluniau peilot yn dod yn eu blaenau yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Hoffwn ddiolch o galon i holl aelodau'r gweithgor am eu gwaith caled yn paratoi'r pecyn cymorth diwygiedig a fydd yn gyfraniad pwysig i'n gwaith yn y maes hwn.