Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon ar ddiwedd mis Medi yma, â chyflog ac amodau athrawon yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2019.
Mae hyn yn gyfle i ddatblygu model cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, sy’n corffori dull cenedlaethol o gefnogi a rhoi hwb i statws y proffesiwn yng Nghymru.
Yn fy Datganiad Ysgrifenedig ar 14 Rhagfyr 2017 rhoddais wybod i Aelodau am sefydliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen, i’w gadeirio gan yr Athro Mick Waters, i adolygu Cyflog ac Amodau Gwasanaeth Athrawon yng Nghymru.
Ochr yn ochr ag hyn, rhoddais wybod i Aelodau o fy mwriad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i helpu i lywio datblygiad system sy’n briodol i bennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru.
Nawr, gallaf gyhoeddi y bydd yr ymgynghoriad ar y mecanwaith arfaethedig i bennu cyflog athrawon yn agor heddiw.