Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad fod dogfen ymgynghori ar y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â chanllawiau statudol i'w cyhoeddi dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf').
Mae'r canllawiau drafft yn nodi cyfres o ofynion arfaethedig i'w gweithredu gan yr awdurdodau perthnasol sy’n ymwneud â chyflwyno hyfforddiant a safonau hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’r materion hyn yn unol â'r Ddeddf. Nod y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw creu gofal o safon gyson ar gyfer y rhai hynny sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys gwasanaeth o safon uchel drwy'r gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y grŵp hwn o gleientiaid.
Bydd y Fframwaith yn sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel a chyson ar gael i'r rhai hynny ar draws y sector cyhoeddus a'r sector arbenigol. Mae uchelgais a chyrhaeddiad y Fframwaith yn ddigyffelyb, ac yn nodi newid sylfaenol i'r ffordd y mae ein gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio wrth ymdrin â'r materion pwysig hyn.
Bydd yr ymghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos tan 23 Hydref 2015. Rwy'n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid, a byddaf yn ystyried eu sylwadau yn ofalus cyn gosod y canllawiau ger bron y Cynulliad, yn unol ag adran 15 o'r Ddeddf.