Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddaf heddiw ymgynghoriad ar y cynnig i ddileu atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol i dalu’r dreth gyngor ar gyfer pobl hyd at 24 oed sy’n gadael gofal.

Rwy’n awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy’n gadael gofal, ac i sicrhau eu bod yn llwyddo i bontio i fyd oedolion ac i fyw yn annibynnol. Bydd y cam hwn yn atal y perygl fod pobl sy’n gadael gofal yn atebol i dalu’r dreth gyngor, pan fod rhywun arall (sydd heb ei eithrio) wedi methu â thalu ei dreth gyngor ei hun.

Yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i geisio diwygio’r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach i bawb. Rwyf wedi bod yn ystyried y gwahanol opsiynau, gan gynnwys edrych ar sut y gallwn wneud y dreth gyngor yn fwy teg i gartrefi sy’n agored i niwed.

Mae hyn yn gyfle i newid ein system treth gyngor i’w gwneud yn fwy deg, ac rwy’n awyddus i glywed barn pawb.

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, rwy’n bwriadu cyflwyno deddf sy’n eithrio pobl sy’n gadael gofal rhag bod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu’r dreth gyngor o 1 Ebrill 2022.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma:

https://llyw.cymru/cael-gwared-ar-atebolrwydd-unigolion-cymwys-syn-gadael-gofal-am-dalur-dreth-gyngor

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.