Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau plant, a bydd yn cyflwyno Bil i ddileu amddiffyniad cosb resymol ym mlwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol.
Mae gwahardd cosbi plant yn gorfforol gan rieni, neu'r rheini sy'n gweithredu in loco parentis, yn gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei ategu gan amrywiaeth o gymorth i rieni a gwybodaeth am strategaethau rhianta ac opsiynau eraill yn lle cosbi corfforol i helpu rhieni i wneud dewisiadau cadarnhaol.
Lansiais ymgynghoriad ym mis Ionawr ynghylch deddfu i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Daeth hwnnw i ben ar 2 Ebrill 2018; bydd yr ymatebion a dderbyniwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r Bil ac yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei datblygu.
Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi heddiw. Cafwyd 1,892 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Ar ben hynny roedd 274 o bobl ychwanegol wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau allanol a gynhaliwyd i gael barn cynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid, y cyhoedd, a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr.
Mae adolygwr annibynnol, Arad, wedi dadansoddi'r ymatebion ac wedi dod â'r prif negeseuon i'r golwg. Roedd ychydig dros hanner nifer yr ymatebwyr – 50.3% – yn cytuno y byddai'r cynnig deddfwriaethol yn helpu i gyrraedd ein nod penodol o ddiogelu hawliau plant; roedd 48.1% o’r ymatebwyr yn anghytuno.
Mae crynodeb a dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Caiff yr holl ymatebion a dderbyniwyd eu hystyried yn ystod y gwaith o ddatblygu'r Bil.
Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid wrth inni gyflwyno deddfwriaeth.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.