Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar gynllun gweithredu drafft i Gymru ynghylch sŵn a seinwedd, ar gyfer y cyfnod 2018-23. Mae’r ddogfen hon yn cymryd lle’r cynllun gweithredu presennol ar gyfer sŵn a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Mae deddfwriaeth ynglŷn â sŵn amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu cynlluniau gweithredu sŵn, gan eu diwygio lle bo’r angen, o leiaf bob pum mlynedd.
Gall sŵn, sy’n golygu sain ddiangen neu niweidiol, yn y byrdymor, amharu ar gwsg a chynyddu lefelau straen, dicter neu flinder, yn ogystal â tharfu ar weithgareddau pwysig megis dysgu, gweithio ac ymlacio. Yn y pen draw, mae’n lleihau ansawdd bywydau pobl. Gall seiniau uchel achosi niwed i’r clyw, tra gall sŵn dros amser hir gynyddu’r risg o gael clefydau sy’n gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel a chlefyd cardiofasgwlaidd.
Roedd cwestiwn am sŵn am y tro cyntaf yn Arolwg Cenedlaethol i Gymru 2017-18. Gofynnwyd i bobl a oedd sŵn o’r tu allan i’w cartref wedi bod yn eu poeni’n rheolaidd yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd 24% ei fod wedi. O'r rhain, dywedodd:
• 36% fod y sŵn wedi’i achosi gan gymdogion yn eu cartrefi
• 47% ei fod wedi’i achosi gan gymdogion y tu allan i’w cartrefi
• 45% ei fod wedi’i achosi gan draffig, busnesau neu ffatrïoedd
Ceir canfyddiadau eraill yr Arolwg Cenedlaethol mewn perthynas â sŵn mewn atodiad i’r papur ymgynghori drafft ar y cynllun gweithredu sŵn seinwedd. Roedd y rheini’n cynnwys y canfyddiad fod “pobl yn fwy tebygol o gael eu poeni gan sŵn os oeddent yn byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol neu ardaloedd difreintiedig.”
Er ein bod yn cydnabod effaith niweidiol sŵn ar ein cymdeithas, rydym hefyd yn cydnabod bod siarad, chwerthin, bloeddio cymeradwyaeth, cerddoriaeth a seiniau natur yn cyfoethogi’n bywydau. Mae amgylchedd acwstig iach yn fwy nag un sydd heb sain ddiangen yn unig. Diffinnir seinwedd fel yr amgylchedd acwstig a ganfyddir, a brofir neu a ddeellir gan unigolion neu bobl, o fewn cyd-destun. Mae’n cynnwys seiniau sy’n fuddiol a seiniau niwtral yn ogystal â sŵn.
Y cynllun gweithredu sŵn a seinwedd yw prif ddogfen bolisi Llywodraeth Cymru, a chydweithiodd Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i’w lunio. Mae’n amlinellu polisi strategol y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â rheoli sŵn a seinwedd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ymwneud â mwy na lleihau sŵn yn unig. Mae’n cydnabod hefyd fod angen inni greu seinweddau priodol. Hynny yw, yr amgylchedd acwstig iawn yn y man iawn ar yr adeg iawn. Dylai trefi a dinasoedd gynnwys amrywiaeth o seinweddau sy’n briodol iddynt.
Mae pwyntiau allweddol y cynllun drafft yn cynnwys:
• Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddilyn y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf honno wrth reoli sŵn a seinweddau.
• Drwy ddiffinio sŵn amgylcheddol fel llygrydd a gludir yn yr awyr yn ein Rhaglen Aer Glân, byddwn yn creu cyfleoedd i gysoni ymhellach bolisïau a rheoliadau sŵn/seinwedd ac ansawdd aer yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, er mwyn inni elwa’n fawr arnynt.
• Byddwn yn datblygu cynnwys newydd Polisi Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ag ansawdd aer a seinwedd wrth inni roi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol statudol cyntaf Cymru ar waith ac yn llunio canllawiau pellach ar ansawdd aer a seinwedd i helpu’r awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Yn benodol, byddwn yn cynnal adolygiad manwl o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 11: Sŵn, gyda’r nod o gyflwyno TAN newydd yn ei le a fydd yn ymdrin ag ansawdd aer a seinwedd.
• Bydd trefniadau newydd ar gyfer rhoi grantiau amgylcheddol, gan gynnwys grantiau ar gyfer darparu mwy o fannau gwyrdd llonydd yn yr amgylchedd adeiledig, yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.
• Bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r gwaith o drin safleoedd ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn ôl lefel y sŵn, nifer y cartrefi yr effeithir arnynt, y cwynion a ddaeth i law yn ystod y pum mlynedd hyd at fis Mehefin 2018, agosrwydd at y gwaith i wella rhwydweithiau, y gost a’r ymarferoldeb. Byddwn yn datblygu rhaglen waith i drin y lleoliadau pwysicaf â mesurau lliniaru megis rhwystrau sŵn ac arwynebau sŵn isel. Fodd bynnag, mae penderfynu ynghylch pa leoliadau yn union fydd yn cael eu lliniaru yn y pum mlynedd nesaf y tu hwnt i gwmpas dogfen gyffredinol y cynllun gweithredu ar gyfer sŵn a seinwedd, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth fydd yn penderfynu yn eu cylch.
• Drwy ei haelodaeth o bwyllgorau sŵn y Sefydliad Safonau Prydeinig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael canllawiau technegol clir a phriodol er mwyn eu helpu i wneud eu gwaith.
• Byddwn yn parhau i gydweithio â rheoleiddwyr sŵn yng Nghymru er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau sy’n ymwneud â sŵn mewn cymdogaethau yn parhau i fod yn gyfredol, ac yn rhoi gwybodaeth glir a chywir i’r cyhoedd ynghylch sut i wneud cwyn am niwsans sŵn yn eu hardal.
Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar gynnwys arfaethedig cynllun gweithredu sŵn a seinwedd 2018. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 3 Hydref 2018.
https://beta.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-ynghylch-swn-seinwedd-2018-2023