Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf heddiw gyhoeddi'r crynodeb o’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft a'r rheoliadau perthnasol arfaethedig.

Mae hon yn garreg filltir hanfodol wrth sicrhau bod y rheini sy'n gweithio gyda dysgwyr ag ADY yn deall eu swyddogaethau a'u cyfrifoldebau dan y Ddeddf, y rheoliadau a'r Cod. Bydd yn eu cynorthwyo i ddarparu system gymorth wedi'i thrawsnewid i wella deilliannau addysgol i rai o'n plant a phobl ifanc mwyaf difreintiedig. 

Rwyf wrth fy modd â lefel yr ymgysylltiad gan ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid yn yr ymgynghoriad. Cafwyd cyfanswm o 644 o ymatebion ysgrifenedig, gan gynnwys rhai mewn ymateb i’r fersiwn hawdd ei deall a’r fersiwn plant a phobl ifanc. 

I sicrhau ein bod yn cyrraedd ystod eang o randdeiliaid, cynhaliwyd wyth digwyddiad ymgynghori hanner diwrnod yn y pedair ardal consortiwm addysg rhanbarthol, ac roedd cyfanswm o tua 800 o bobl yn bresennol yn y rhain. Hefyd, comisiynwyd cyfres o sesiynau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc a rhieni, gyda 228 yn cymryd rhan. Heddiw, rwyf hefyd wedi cyhoeddi'r crynodebau adborth ar wahân o'r digwyddiadau ymgynghori rhanbarthol a'r sesiynau ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni.

Yn gyffredinol, cafwyd ateb cadarnhaol i dros hanner y cwestiynau. O'r cwestiynau sy'n weddill, nid oedd mwyafrif llethol yn erbyn y cynnig yn unrhyw un ohonynt, ond roedd nifer fawr 'ddim yn siŵr' neu wedi rhoi ateb negyddol. Roedd y sylwadau a gafwyd gan ymatebwyr yn dueddol o ddod gan y rhai hynny a oedd yn gwrthwynebu agweddau penodol o'r polisïau a nodwyd yn y Cod ADY drafft, neu a oedd yn ansicr ynglŷn ag agweddau o'r polisïau hynny ac yn gofyn am eglurder pellach. 

Cododd sawl mater yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd yn awr angen eu hystyried yn fanwl i benderfynu pa newidiadau a all fod eu hangen i'r Cod a'r rheoliadau. Rwy'n bwriadu cyflwyno drafft diwygiedig o'r Cod ADY gerbron y Cynulliad i gael ei gymeradwyaeth yn ddiweddarach yn 2019. Ar yr un pryd, rwy'n bwriadu cyflwyno amryw o reoliadau i'w gwneud dan y ddeddf, gan gynnwys y rhai yr ymgynghorwyd arnynt fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Yn ogystal â chyhoeddi'r Cod ADY a'r rheoliadau, bydd memorandwm esboniadol yn cael ei gyhoeddi a fydd yn nodi mewn manylder unrhyw newidiadau a wnaed o ganlyniad i'r ymgynghoriad.

Cyn belled bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo, rwy'n disgwyl cyhoeddi'r Cod ADY cyn diwedd 2019, a gweithredu'r system ADY newydd dros gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ym mis Medi 2020.