Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r adroddiad Crynodeb o’r Ymatebion yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant.
Cafodd yr ymgynghoriad gyfanswm o 376 o ymatebion; 262 gan unigolion a 114 gan sefydliadau. Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod cyfarfodydd a gweithdai ymgynghori hefyd wedi cael eu hystyried wrth ddrafftio'r adroddiad. Mae'r ymgynghoriad wedi dangos bod yr ymatebwyr yn gefnogol o'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau drafft.
Hoffwn ddiolch i randdeiliaid a phawb sydd â diddordeb am gymryd yr amser i rannu eu barn. Bydd yr adborth gwerthfawr hwn yn cael ei ystyried wrth i'r Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant a'r asesiad effaith integredig gael ei adolygu a'i gwblhau.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion ar gael yma: Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030 | LLYW.CYMRU