Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn dilyn yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn a oedd yn nodi’r cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd, rwy’n falch i gyhoeddi’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft heddiw. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i weithredu system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau yng Nghymru, gan arwain y ffordd at arbed bywydau drwy gynyddu nifer yr organau a meinweoedd ar gael i’w trawsblannu.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn dod i ben ar 10 Medi 2012.
I gyd-fynd â’r Bil drafft, mae dogfen ymgynghori a Memorandwm Esboniadol drafft manwl, sy’n nodi sut rydym yn gweld y system newydd yn gweithio. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n dangos achos cost a budd cryf dros y newidiadau, Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd.
Bydd y Bil hwn yn newid y ffordd y caiff cydsyniad ei roi ar gyfer organau a meinweoedd pobl sydd wedi marw yng Nghymru at ddibenion trawsblaniad. Y prif newid fydd mewn perthynas ag oedolion sy’n byw ac yn marw yng Nghymru, lle ystyrir y bydd cydsyniad wedi’i roi os nad ydynt wedi mynegi dymuniad o blaid neu yn erbyn rhoi organau. Ni fydd ‘cydsyniad a ystyrir’ yn berthnasol i bawb – bydd camau i ddiogelu plant, pobl nad yw’r gallu ganddynt i gydsynio a phobl nad ydynt yn byw yng Nghymru.
Yn ymarferol, caiff pobl y cyfle naill i wneud penderfyniad yn ffurfiol i fod yn rhoddwyr (optio i mewn) neu i beidio bod yn rhoddwyr (optio allan), drwy osod eu henw ar gofrestr. Os ydynt yn penderfynu peidio gwneud y naill na’r llall, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael y cyfle i optio allan, byddant i bob pwrpas wedi gwneud penderfyniad y gyfraith ‘cydsyniad a ystyrir’. Caiff hyn ei ystyried fel dymuniad yr ymadawedig i roi ei organau, ac mae’n benderfyniad y bydd teuluoedd, mewn modd sensitif, yn cael eu hannog i’w dderbyn.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi taflen wybodaeth i aelodau’r cyhoedd sy’n cynnwys crynodeb byr o’r newid arfaethedig yn y gyfraith, gan gyfeirio at y Bil a’r dogfennau mwy manwl. Rwy’n trefnu bod holl Aelodau’r Cynulliad yn cael nifer o gopïau a bydd hefyd yn cael ei ddosbarthu drwy feddygfeydd, llyfrgelloedd a mannau cyhoeddus eraill.Byddaf yn cyflwyno Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) i’r Cynulliad yn ystod sesiwn 2012-13 ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft. Rwy’n rhagweld y bydd y system feddal newydd o optio allan yn cael ei gweithredu yn 2015, ddwy flynedd ar ôl i’r ddeddfwriaeth fynd trwy’r Cynulliad, er mwyn gallu cynnal ymgyrch gyfathrebu ac ymwybyddiaeth gyhoeddus eang.