Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynais ddatganiad llafar ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 24 Ionawr 2012. Yn yr adroddiad hwnnw, amlinellais am y tro cyntaf gynnwys arfaethedig y Bil ac roeddwn yn hynod falch o’r ymateb cadarnhaol i’r datganiad.
Datblygwyd y Bil hwn i ddarparu’r sail ddeddfwriaethol sydd ei hangen arnom i weithredu’r rhaglen o newid a amlinellir yn ein Papur Gwyn, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Mae’r rhaglen hon wedi adeiladu ar yr ymarfer ymgysylltu eang a gynhaliwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol, a’i diben yw mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni.
Ni fydd y rhaglen hon yn mynnu ym mhob achos ein bod yn rhoi deddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig ar waith. Yn wir, mae sawl agwedd eisoes ar waith, er enghraifft, rwyf eisoes wedi sefydlu’r Fforwm Partneriaeth ar Wasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol a Grŵp Arweinyddiaeth Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, gydag agweddau allweddol eraill, bydd yn ofynnol i ni greu neu ddiwygio deddfwriaeth ac, yn yr achosion hyn, y Bil fydd ein cyfrwng i gyflawni hyn. Mewn rhai meysydd lle nad oes angen unrhyw bwerau newydd, bydd hefyd yn ein galluogi i gyfuno a symleiddio’r ddeddfwriaeth gyfredol os oes yna fudd o wneud hynny.
Yn ystod y drafodaeth yn dilyn fy natganiad llafar, cydnabyddais y byddai Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd am gael gwybod am unrhyw gynnydd o ran y Bil a chael y cyfle i drafod manylion y cynigion a amlinellais. Felly, mae’n bleser gen i gyhoeddi cyhoeddiad dogfen ymgynghori’r Bil, a fydd ar gael ar dudalennau gwe ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru o heddiw ymlaen.
I gyd-fynd â’r ddogfen hon, cyhoeddir fersiwn cryno, fersiwn plant a phobl ifanc, fersiwn hawdd ei darllen a phecyn ymgynghori sy’n galluogi sefydliadau i gynnal eu hymarferion ymgynghori eu hunain. Bydd y rhain ar gael ar ein gwefan yn fuan.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn garreg filltir allweddol yn natblygiad y Bil, ac mae’n amlinellu’r cynigion manwl yr ydym am eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Bydd yr ymgynghoriad yn para deuddeg wythnos, o 12 Mawrth tan 1 Mehefin 2012, ac fe’i hategir gan amrywiaeth o weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu.
Rwy’n falch bod agenda y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy wedi bod yn seiliedig ar gonsensws a chydweithio hyd yma. Er fy mod yn cydnabod bod y ddogfen ymgynghori hon yn dechnegol ac yn fanwl, o reidrwydd rwy’n gobeithio y bydd amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled Cymru, gan eich cynnwys chi, yn ymateb i’r cynigion. Bydd hyn yn sicrhau y gellir ystyried pob safbwynt cyn cyflwyno’r Bil i’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hydref, a’n bod yn cael manylion y Bil pwysig hwn yn iawn.