Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â gweledigaeth y llywodraeth hon am system atebolrwydd deg, gydlynol, gymesur a thryloyw ym myd addysg, rwyf heddiw'n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar reoliadau newydd mewn perthynas â chyhoeddi, fel mater o drefn, ddata asesiadau athrawon a phrofion.

Fel y nodir yn ein cynllun gweithredu 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl', byddwn, yn ystod mis Hydref 2018, yn cyhoeddi fframwaith asesu a gwerthuso cyffredinol newydd ar gyfer y system addysg. Yna, caiff ei brofi a'i werthuso mewn ysgolion.

Mae tystiolaeth ryngwladol, yn ogystal â'r neges yma yng Nghymru, yn glir. Rhaid sicrhau ymagwedd gydlynol sy'n osgoi canlyniadau nas bwriadwyd ac sy'n cyfrannu tuag at godi safonau ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr.

Adleisiwyd y safbwynt hwn yn asesiad polisi cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), "The Welsh Education Reform Journey". Un o argymhellion yr adroddiad oedd bod angen i Gymru symud tuag at system asesu, gwerthuso ac atebolrwydd newydd sy'n cyd-fynd â chwricwlwm yr 21ain ganrif.

Ym mis Gorffennaf, gwnes i ddatganiad yn amlinellu fy mwriadau o ran asesu ar gyfer dysgu. Soniais fod asesiadau athrawon ar hyn o bryd hefyd yn rhan o'n system atebolrwydd, ac felly fod y llinellau rhwng y ddau wedi bod yn aneglur yn aml, gan arwain at ganlyniadau nas bwriadwyd yn yr ystafell ddosbarth.  

Cyhoeddais y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gasglu a defnyddio data asesiadau athrawon a phrofion gan gynnwys cynnig i beidio â chyhoeddi data asesiadau athrawon a phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol sy’n is na’r lefel genedlaethol o 2018 ymlaen. Felly, gan ddilyn ymlaen o Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, gallaf gadarnhau heddiw ein bod yn lansio ymgynghoriad ffurfiol ar reoliadau newydd wrth baratoi i roi’r gorau i gyhoeddi data asesiadau athrawon a phrofion fel mater o drefn, gan ganiatáu i fwy o sylw gael ei roi i hunanwerthusiadau ysgolion.  Bydd ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yn parhau i gael mynediad at eu data eu hunain, ynghyd â data ar lefel genedlaethol, i werthuso pa mor dda y mae ysgol(ion) yn perfformio ac fel sail i'w cynlluniau.

Mae'r Rheoliadau diwygio arfaethedig yn tynnu'r gofynion statudol sydd ar sefydliadau ar hyn o bryd, megis ysgolion a chyrff llywodraethu, i ddefnyddio data asesiadau athrawon a phrofion yn eu prosesau cynllunio ac adrodd. Fel rwyf eisoes wedi nodi, dylai asesu ganolbwyntio ar y prif ddiben, sef darparu gwybodaeth i lywio penderfyniadau am sut orau i wneud cynnydd o ran dysgu pobl ifanc, ac adrodd ar y cynnydd hwnnw i'w rhieni a'u gofalwyr. Mae defnyddio asesu at ddibenion dysgu yn golygu bod dysgu'n addasol bob amser, a hefyd ei fod yn benodol i'r dysgwr ac yn cefnogi'r gwaith o gynyddu safonau i bawb.

Mae'r ymgynghoriad, sydd ar gael drwy'r ddolen isod, yn gofyn am farn y cyhoedd i weld a yw'r Rheoliadau arfaethedig yn helpu i wneud cynnydd o ran ein hamcanion ac yn helpu i ailffocysu asesu ar ddysgu.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 30 Ionawr. Anogaf bawb yn y sector i gyfrannu ato.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/rheoliadau-addysg-diwygiadaun-ymwneud-gwybodaeth-asesiadau-athrawon-cymru-2018