Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae lles anifeiliaid o safon uchel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru'n gosod allan ein cynllun ar gyfer parhau i wella a chynnal safonau iechyd a lles anifeiliaid sy'n cael eu cadw.
Ar hyn o bryd, gellir prynu cŵn a chathod bach naill ai'n uniongyrchol oddi wrth fridiwr (wedi'i drwyddedu neu heb ei drwyddedu gan ddibynnu a yw'r rheolau bridio'n gymwys), trwy werthwr trydydd parti neu o ganolfan achub/ailgartrefu.
Ceir pryderon y gallai fod cysylltiad rhwng gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol drwy drydydd parti ac amodau lles gwael i’r anifeiliaid dan sylw o’i gymharu â phan mae pobl yn prynu’n uniongyrchol gan y bridiwr. Er enghraifft, cyflwyno nifer o amgylcheddau newydd ac anghyfarwydd, a’r tebygolrwydd y bydd yn rhaid i’r cŵn neu’r cathod bach gael eu symud o gwmpas mwy gan gynyddu’r risg o afiechydon a gall y cŵn a’r cathod bach golli’r cyfle i gymdeithasu a chynefino.
Ar 19 Mehefin, traddodais Ddatganiad Llafar yn cyhoeddi fy ymrwymiad i ystyried yr opsiynau ar gyfer gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti yng Nghymru.
Heddiw, rwyf am lansio ymgynghoriad i gasglu gwybodaeth am gadwyn cyflenwi cŵn a chathod bach ac i weld ble y câi ymyrraeth gan y Llywodraeth yr effaith fwyaf. Bydd yn para tan 17 Mai 2019.
Bydd swyddogion yn parhau i drafod â chynrychiolwyr y diwydiant a mudiadau lles i sicrhau y caiff unrhyw newid ei reoli er mwyn lliniaru'r risgiau posib a nodir yn y broses ymgynghori.
Mae mwyafrif llethol y rhai hynny sy'n prynu cŵn a chathod bach yn gwneud hynny gan geisio gwneud y peth iawn. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn amlwg i'r prynwr o ble y daeth eu hanifail anwes newydd, neu o dan ba amodau y cafodd ei fagu. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl i'n galluogi i wneud gwelliannau parhaus i les cŵn a chathod bach sy'n cael eu magu yng Nghymru. Gallai gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd parti fod ond yn un agwedd ar hyn.
Caiff unrhyw gynnig i newid polisi neu ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn ei asesu'n llawn o ran ei effaith a chaiff ymgynghoriad ei gynnal arno.