Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wella'r broses apeliadau treth gyngor yng Nghymru, fel cyfraniad at gyflawni ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i weithredu treth gyngor decach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn flaenorol ar uchelgeisiau i weithredu treth gyngor decach, ac mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 a gafodd ei chymeradwyo wedyn gan y Senedd yn cadarnhau y bydd y dreth gyngor yn cael ei hailddylunio yn 2028. Wrth inni baratoi ar gyfer y newidiadau hynny, rwyf hefyd yn ystyried sut y gellir gwella rhannau eraill o'r system yn y cyfamser er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn effeithiol. 

Clywsom o ymgynghoriadau blaenorol sut y gellid gwella'r fframwaith apeliadau, ac i'r perwyl hwnnw buom yn gweithio gyda llywodraeth leol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Nod y newidiadau arfaethedig yw ceisio symleiddio'r broses apelio er mwyn ei gwneud yn fwy effeithiol ac yn haws ei defnyddio. Ein bwriad yw galluogi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i roi mwy o'r wybodaeth eiddo sydd ganddynt i drethdalwyr mewn perthynas â bandiau'r dreth gyngor yn gynharach yn y broses, er mwyn gwella tryloywder a helpu trethdalwyr i wneud penderfyniadau cytbwys yn gynt. Rydym hefyd yn cynnig dileu'r drefn bresennol lle yr anfonir apeliadau i Dribiwnlys Prisio Cymru yn awtomatig heb i'r trethdalwr fod yn rhan o'r penderfyniad hwnnw, er mwyn rhoi'r dewis i drethdalwyr a ddylid symud ymlaen i wrandawiad tribiwnlys ai peidio. 

Mae'r broses apelio yn agwedd sylfaenol ar system dreth deg, ac mae adolygu'r fframwaith presennol yn elfen bwysig o ddiwygio'r dreth gyngor. Bydd gwelliannau yn sicrhau bod y fframwaith yn parhau i fod yn addas ar gyfer ei ddiben. 

Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio cynigion Llywodraeth Cymru, gan ofyn am sylwadau. Bydd ar agor am 12 wythnos o 10 Ionawr i 3 Ebrill 2025. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i law.