Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy mhenderfyniad i leihau'n raddol uchafswm cyfradd y comisiwn sy'n daladwy wrth werthu cartref mewn parc o 10% i 5% dros gyfnod o 5 mlynedd, rwyf heddiw wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol am sut y dylid gweithredu'r newid hwnnw.  

Mae'n bwysig nodi nad ailedrych ar y penderfyniad ei hun i leihau cyfradd y comisiwn yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn. Yn hytrach, rydym am glywed barn pobl am sut y dylid mynd ati i weithredu'r penderfyniad. Mae'r cwestiynau yn ymwneud â phryd y dylid cyflwyno'r gostyngiad cyntaf; pa ganllawiau, os o gwbl, sydd eu hangen i gefnogi'r newid; a beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu ynghylch y newid hwnnw.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/rhoir-newid-i-gyfradd-y-comisiwn-ar-gartrefi-mewn-parciau-ar-waith , a bydd yn cau ar 14 Rhagfyr 2018.