Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod yn lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ein cynigion i gyflwyno rheoliadau newydd i weithredu’r Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (y Mesur).
Pasiwyd y Mesur, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Ann Jones AC, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror 2011. Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno rheoliadau er mwyn gwneud systemau awtomatig ar gyfer atal tân, fel systemau chwistrellu, yn orfodol ym mhob eiddo preswyl newydd neu sy’n cael ei addasu. Mae hyn yn cynnwys tai, fflatiau, cartrefi gofal, neuaddau preswyl a rhai hostelau, sy’n newydd neu sy’n cael eu haddasu.
Yn yr ymgynghoriad hwn rwy’n cynnig newidiadau i’r Rheoliadau Adeiladu, ynghyd â newidiadau i’r canllawiau technegol mewn Dogfennau Cymeradwy perthnasol. Rwyf hefyd wedi gosod Dadansoddiad Cost a Budd diwygiedig ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn.
Wrth lunio’r cynigion, manteisiwyd ar gyngor ac arweiniad arbenigol gan ein Gweithgor Mesur Diogelwch Tân Domestig, gan gynnwys cynrychiolwyr o Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu, y Gwasanaeth Tân ac Achub ac Undeb y Brigadau Tân, y proffesiwn Rheoli Adeiladu, y sector diogelwch tân, cwmnïau dŵr, adeiladwyr tai, cynrychiolwyr cartrefi gofal ac eraill sydd â diddordeb yn y cynigion hyn. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Gweithgor am eu cyngor a’u harweiniad.
Mae nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau mewn cartrefi yn parhau i fod yn rhy uchel, ac mae’n rhaid i ni roi sylw i hynny. Mae systemau atal tân sydd wedi’u cynllunio a’u cynnal yn briodol yn achub bywydau ac yn atal anafiadau i ddeiliaid tai ac ymladdwyr tân, yn ogystal â lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan danau. Felly mae’r cynigion hyn yn gam arwyddocaol ymlaen tuag at ddiogelwch tân yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.