Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â "Symud Cymru Ymlaen”, sy'n nodi sut y bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau mwy  o swyddi a gwell swyddi drwy ddatblygu economi gryfach a thecach, sut y bydd yn gwella ac yn diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy, rwyf heddiw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar weithrediad ac effeithiolrwydd Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (y Ddeddf).
Mae'r ymgynghoriad yn ystyried yr effaith a gafodd y Ddeddf ar y sector amaethyddol yng Nghymru yn ystod y tair blynedd ers iddi gael Cydsyniad Brenhinol.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi sut mae Gweinidogion Cymru wedi cyflawni'r dyletswyddau statudol a osodwyd arnynt gan y Ddeddf, yn ogystal â’r  camau a gymerwyd hyd yma gan y Panel Cynghori Amaethyddol ar gyfer Cymru, a sefydlwyd yn unol â’r Ddeddf. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar yr agweddau canlynol yn benodol:

• Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ‒. Cylch gwaith y Panel yw hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth a pharatoi a drafftio gorchmynion cyflogau amaethyddol, sy'n gosod y telerau a’r amodau ar gyfer pobl a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, a chynnig cyngor i Weinidogion Cymru os gofynnir iddynt wneud hynny.

• Cyflwyno Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol ‒ rhan arall o gylch gwaith y Panel yw  ystyried cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr yn y sector amaethyddol yng Nghymru a pharatoi gorchmynion cyflogau drafft cyn iddynt gael eu cyflwyno i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

• Gwaith yr is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant - Mae  is-bwyllgor y Panel yn allweddol o ran cefnogi proffesiynoldeb y diwydiant a chyflawni'r nod ehangach o ddatblygu sector amaethyddol ffyniannus, gwydn a chynaliadwy yng Nghymru. Mae bodolaeth gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac yn cael tal briodol yn sail ar gyfer cyfarfod y weledigaeth a  rannir gan y diwydiant a Llywodraeth Cymru.

Mae adran 14 o’r Ddeddf yn cynnwys "Cymal Machlud", a fyddai, o’i weithredu, yn golygu y byddai effaith y Ddeddf yn dod i ben flwyddyn ar ôl i’r cyfnod adolygu ddod i ben oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i gadw’r Ddeddf. Mae'r ymgynghoriad hefyd felly yn gofyn am farn ar barhad y Ddeddf  y tu hwnt i 30 Gorffennaf 2018.
Rydym yn ceisio barn a chyfraniadau gan amrywiaeth eang o bobl. Pan fydd yr ymatebion a’r sylwadau wedi dod i law ac wedi cael eu hystyried, bydd adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y cyfnod adolygu yn cael ei ysgrifennu a'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r  darpariaethau’r  Ddeddf yn cyfrannu at sicrhau gwell proffesiynoldeb yn y sector drwy ddatblygu sgiliau priodol, ac at  gynaliadwyedd y sector amaethyddol yn y tymor hir drwy osod cyfraddau isafswm cyflog teg ar gyfer gweithwyr amaethyddol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn cefnogi datblygiad cynaliadwy'r sector drwy ddiogelu a chefnogi  incwm aelwydydd ac annog pobl i ddatblygu sgiliau a’u gyrfaoedd, sy’n helpu i sicrhau cymunedau ffyniannus ledled Cymru.


https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/adolygiad-o-ddeddf-sector-amaethyddol-cymru-2014