Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adran 78(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i  fabwysiadu strategaeth ar sut maent yn bwriadu hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.  Wrth i strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru Iaith fyw: Iaith byw 2012-2017 ddirwyn i ben (31 Mawrth 2017), mae’n ofynnol ar  Weinidogion Cymru baratoi ac ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg.
 
Heddiw, rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad ar  strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg er mwyn rhannu ein gweledigaeth hirdymor gyda’r cyhoedd a rhoi cyfle i drigolion Cymru fwydo mewn i’r broses o siapio strategaeth newydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n briodol felly bod ein strategaeth newydd yn edrych i’r dyfodol ac yn cydnabod y ffaith fod cynllunio ieithyddol yn fater hir-dymor sy’n pontio cenedlaethau. Gan hynny, mae’r strategaeth ddrafft newydd yn gosod ein gweledigaeth hir-dymor sy’n ymestyn dros gyfnod rhwng 2017 a 2050. Rydym wedi adnabod chwe maes datblygu strategol ar gyfer cyflawni’r weledigaeth, sef:

  1. Cynllunio a Pholisi Iaith
  2. Normaleiddio
  3. Addysg
  4. Pobl
  5. Cefnogi
  6. Hawliau

Cyflwynir cynigion yn y ddogfen sy’n cyfleu ymrwymiad y Llywodraeth i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan bobl ar y pwyntiau allweddol yn eu bywydau. Y bwriad yw sicrhau bod y Gymraeg yn rhan berthnasol, ddeniadol o fywyd o’r crud i’r bedd.

Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 1 Awst a 31 Hydref 2016 ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru