Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydw i'n falch o gyhoeddi ymgynghoriad ar Safonau Gwasanaeth ar gyfer Addasu Tai. Mae addasu tai yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu pobl anabl a hŷn i fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwaith pwysig hwn o fudd mawr i bobl gan gefnogi eu llesiant corfforol a meddyliol yn ogystal â lleihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol.

Mae darparu addasiadau i dai yn cefnogi amcanion ein hagenda polisi a nodwyd yn ‘Ffyniant i Bawb’ a ‘Cymru Iachach’, drwy alluogi pobl i barhau i fod yn annibynnol ac i dderbyn gwasanaethau'n nes at eu cartrefi.

Mae nifer fawr o sefydliadau sy'n helpu i addasu tai yng Nghymru , ac mae'n bwysig bod safon y gwasanaeth yn gyson, ni waeth lle y mae pobl yn byw na pha fath o ddeiliadaeth sydd ganddynt.

Bydd y safonau newydd yn helpu i ddatrys y mater hwn. Nod y safonau yw amlinellu lefel y gwasanaeth y gall defnyddwyr gwasanaethau ei disgwyl o ran cwblhau a gosod addasiadau i’w tai, lle bynnag y bônt yn ddaearyddol a beth bynnag y bo natur eu deiliadaeth,. Dylai Safonau’r Gwasanaethau sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn cwblhau eu gwaith o addasu tai mewn modd sy’n fwy cyson gan ddweud wrth ddefnyddwyr y gwasanaethau pa lefel o wasanaeth y gallant ei disgwyl pan fyddant yn mynd ati i chwilio am gymorth i addasu eu tai.

Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes i fynegi eu barn ac i ddarparu tystiolaeth gadarn i gefnogi eu safbwynt.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/safonau-gwasanaeth-ar-gyfer-addasiadau-i-dai a bydd yn cau ar 19 Rhagfyr 2018.