Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw’n lansio ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai preifat yng Nghymru

Mae ardrethi annomestig yn rhan annatod o system gyllid llywodraeth leol yng Nghymru, gan gyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn tuag at gost gwasanaethau lleol. Mae’r holl refeniw sy’n cael ei godi yng Nghymru yn cael ei rannu’n llawn i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol a’r heddlu – gwasanaethau yr ydym i gyd yn elwa arnynt.

Yn 2019-20, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth o fwy na £230 miliwn i dalwyr ardrethi drwy ein cynlluniau rhyddhad ardrethi annomestig. Mae angen i’r cymorth hwn gael ei dargedu mewn modd mor effeithiol ag sy’n bosibl ac rydym yn adolygu ein holl gynlluniau rhyddhad yn gyson. Dylai pob talwr ardrethi sydd â’r gallu i wneud hynny gyfrannu cyfran deg tuag at gyllido gwasanaethau lleol.

Ein rhyddhad gorfodol i elusennau yw un o’r cynlluniau sydd ar gael. Mae’n darparu dros £60 miliwn o gymorth i elusennau ac ymddiriedolaethau, gan olygu 80% o leihad yn eu biliau ardrethi. Mae gan awdurdodau lleol bwerau, yn ôl eu disgresiwn, i godi’r rhyddhad i 100%.

Mae pob ysgol ac ysbyty – rhai cyhoeddus a phreifat – yn rhan o’r system ardrethi annomestig, yn yr un modd â’r rhan fwyaf o eiddo annomestig arall. O fewn y grŵp hwn, mae rhai ysgolion ac ysbytai yn cael rhyddhad elusennol. Mae cyfran fach o eiddo’r sector cyhoeddus yn cael y rhyddhad, ac mae cyfran helaethach o eiddo sector preifat yn elwa.

Mae hyn yn rhannol oherwydd yr hyblygrwydd sydd gan sefydliadau preifat i benderfynu ar eu strwythur, sydd wedyn yn golygu eu bod yn gallu bodloni’r amodau gofynnol ar gyfer cael eu trin fel elusen.

Ni fyddem yn dymuno newid gallu ysgolion annibynnol ac ysbytai preifat i godi refeniw drwy ffioedd a thaliadau, ac i elwa ar y manteision ariannol eraill a ddaw yn sgil statws elusennol.  Fodd bynnag, mae'n briodol adolygu'r rhyddhad ardrethi a ddarperir a'r gofynion i gyfrannu at gost gwasanaethau lleol drwy ardrethi annomestig, a hynny er mwyn sicrhau tegwch yn y system drethi leol.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a oes angen diwygio’r rhyddhad ardrethi elusennol ar gyfer ysgolion ac ysbytai. Ein bwriad yw sicrhau bod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu drwy ei chynlluniau rhyddhad ardrethi yn cael ei dargedu mewn modd teg a chyson. Er bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ryddhad elusennol i ysgolion ac ysbytai preifat, hoffem hefyd gael gwybod barn ar ddulliau eraill a allai helpu i sicrhau bod rhyddhad elusennol yn cael ei dargedu’n effeithiol.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos a gofynnir am ymatebion erbyn 24 Ebrill 2020. Rwy’n edrych ymlaen at weld pob un o’r cyfraniadau ar y mater pwysig hwn.

Rhyddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai yng Nghymru