Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar ryddhad ardrethi gwelliannau yng Nghymru. Parodd yr ymgynghoriad am 12 wythnos o 16 Mai tan 8 Awst 2023.
Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad o blaid y cynigion i ddarparu rhyddhad gwelliannau ac fe wnaethant ddarparu ystod o sylwadau. Rwyf yn ddiolchgar am yr ymatebion manwl a chytbwys gan randdeiliaid. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod y cynigion yn diwallu’r bwriad polisi i gefnogi busnesau a thalwyr ardrethi eraill i wneud gwelliannau i'r eiddo y maent yn ei feddiannu i gefnogi eu busnesau a'u twf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i ddarparu ar gyfer rhyddhad gwelliannau, yn unol â'r cynigion, ac mae'n parhau i fod yn fwriad gennym y bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Mae hyn yn amodol ar hynt Bil Ardrethu Annomestig Llywodraeth y DU trwy ei gamau terfynol yn senedd y DU, a fydd yn cyflwyno'r darpariaethau y caiff y rhyddhad ei ddarparu oddi tanynt.
Mae'r crynodeb o'r ymatebion ar gael yn: Rhyddhad ardrethi gwelliannau