Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi annomestig elusennol i ysgolion ac ysbytai preifat yng Nghymru. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhawyd y byddem yn rhoi ystyriaeth bellach i'r opsiynau polisi, gan ymgynghori ymhellach ar unrhyw gynigion penodol ar gyfer cyflwyno newidiadau. 

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar gynnig Llywodraeth Cymru i ddod â rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat i ben, o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Yng Nghymru, mae ysgolion preifat wedi eu cofrestru fel ysgolion annibynnol.

Mae’r cynnig hwn yn ceisio cysoni sefyllfa ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru, at ddibenion ardrethi annomestig. Y nod yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i wasanaethau lleol yng Nghymru drwy dynnu’n ôl y gostyngiad treth a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer ysgolion preifat. 

Ategir dull gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn gan gynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu'r eithriad presennol rhag TAW (nad yw wedi ei ddatganoli) a weithredir ar hyn o bryd ar gyfer ysgolion preifat ledled y DU, ac i ddiddymu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn Lloegr. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi dod â rhyddhad elusennol i ysgolion preifat i ben.

Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio cynnig Llywodraeth Cymru, gan ofyn am sylwadau. Bydd ar agor am 12 wythnos o 23 Medi, a dylai unrhyw ymatebion ddod i law erbyn 16 Rhagfyr 2024. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr holl gyfraniadau a ddaw i law mewn perthynas â’r mater pwysig hwn. 

Mae'r ymgynghoriad ar gael yma: https://www.llyw.cymru/rhyddhad-ardrethi-annomestig-elusennol-ar-gyfer-ysgolion-preifat