Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymgynghoriad yw hwn ar lunio dwy gyfres o reoliadau o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019:

  1. Gallai rheoliadau o dan baragraff 6 o Atodlen 1 Deddf 2019 greu disgrifiad ychwanegol o'r hyn a olygir wrth ddiffygdaliad a phennu terfyn ar ddiffygdaliadau - Nod yr ymgynghoriad yw clywed barn pobl am y diffygdaliadau a allai fod yn ofynnol, ac am y terfynau, os o gwbl, y gellid eu gosod yn sgil torri cytundeb tenantiaeth.
  2. Gallai'r rheoliadau ragnodi gwybodaeth y mae'n rhaid i landlord (neu asiant) ei darparu i ddarpar-denant cyn cymryd blaendal cadw - Nod yr ymgynghoriad yw clywed barn pobl am yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i ddarpar-denant cyn iddo dalu blaendal cadw i landlord neu asiant.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 24 Mai 2019 ac yn dod i ben ar 19 Gorffennaf 2019.