Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o gyngor cynllunio ar lifogydd drwy Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN) newydd. Mae'r TAN hwn wedi'i ddiwygio'n sylweddol ar ôl dau ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân. Rydym wedi ystyried yr adborth o'r ymgynghoriadau hyn ac wedi gwneud addasiadau i'r TAN i ddarparu hyblygrwydd priodol ar gyfer prosiectau adfywio, gan barhau hefyd i gydnabod y perygl cynyddol o lifogydd oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Mae'r stormydd diweddar wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar fywydau a busnesau pobl ledled Cymru, ac mae'n hanfodol bod y system gynllunio yn cydnabod yn llawn effeithiau posibl a thebygolrwydd digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Mae'r TAN yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn ymwneud â Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl), ceisiadau cynllunio a benderfynir gan Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) a phenderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae'n ceisio taro cydbwysedd priodol rhwng caniatáu i gymunedau newid ac adfywio a hefyd sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ystyriaeth flaenllaw ar yr agenda. Mae'r TAN yn ei gwneud yn ofynnol i ACLlau wrth baratoi eu CDLlau gynnal Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol llawn a defnyddio allbynnau yr astudiaethau hyn i lywio dyraniadau tir yn eu CDLlau. Rôl yr Asesiad yw nodi perygl llifogydd o amrywiaeth o ffynonellau ac i ddarparu gwybodaeth hanfodol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch datblygu defnydd tir.
Mae'r TAN newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar y CDLl fel y mecanwaith ar gyfer dyrannu safleoedd ond hefyd nodi mesurau lliniaru llifogydd ac asesu risg. Mae'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu yn ei gwneud yn ofynnol i ACLlau baratoi Cynllun Seilwaith i gefnogi eu CDLl a rhaid i hyn ystyried ystyried mesurau lliniaru llifogydd.
Mae'r TAN yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg gan ddefnyddio'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio i gydbwyso'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau llifogydd yn erbyn pa mor agored i niwed yw’r datblygiad. Yn y bôn, po uchaf yw'r tebygolrwydd o lifogydd a'r mwyaf agored i niwed yw’r datblygiad, y mwyaf cyfyngol yw'r polisi. Gan ddefnyddio'r parthau llifogydd yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, mae'r TAN yn darparu cyngor ar addasrwydd cynigion datblygu ym mhob un o'r gwahanol barthau. Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r TAN yn gwahaniaethu rhwng ystyried datblygiad newydd sy'n cael ei ddiffinio fel datblygiad sy'n digwydd ar safleoedd tir glas ac ailddatblygiad sy'n cael ei ddiffinio fel datblygiad ar safleoedd tir llwyd. Mae angen ystyried cyfleoedd ar gyfer datblygiad newydd yn ofalus gan fod safleoedd tir glas nid yn unig yn cyfrannu at lesiant cyffredinol ond gallant hefyd fod yn adnoddau pwysig ar gyfer rheoli dyfroedd llifogydd yn effeithiol.
Nid yw'r TAN yn cefnogi datblygiad sy’n agored iawn i niwed yn yr ardaloedd lle ceir y perygl mwyaf o lifogydd (parth llifogydd 3). Heddiw rydym wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Hysbysu newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ACLl sy'n bwriadu cymeradwyo datblygiad newydd sy’n agored iawn i niwed ym mharth llifogydd 3, lle nad yw ar dir llwyd, roi gwybod i Weinidogion Cymru cyn y gellir rhoi unrhyw gydsyniad cynllunio. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn gwneud newidiadau i ddau orchymyn gweithdrefn i sicrhau parhad o ran y gofyniad presennol i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddarparu cyngor ar geisiadau cynllunio a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a gynigir mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd (o afonydd a'r môr). Bydd hyn yn sicrhau bod gan ddatblygwyr, ACLlau a Llywodraeth Cymru sail gyfreithiol o hyd ar gyfer ymgynghori â CNC ar geisiadau cynllunio a cheisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd.
Rwy'n cydnabod y gall cyhoeddi canllawiau newydd effeithio ar y gwaith o brosesu ceisiadau cynllunio felly bydd cyfnod pontio ar gyfer gweithredu'r TAN. Bydd ceisiadau cynllunio sydd wedi'u cyflwyno a'u cofrestru cyn cyhoeddi'r TAN newydd yn parhau i gael eu hasesu yn erbyn y fersiwn flaenorol. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw gynnig datblygu, gan gynnwys y rhai nad ydynt eto wedi'u cofrestru gyda'r ACLl, ddefnyddio'r fersiwn newydd o'r TAN. Bydd CNC yn cadw'r hen Fapiau Cyngor Datblygu yn hygyrch ar eu gwefan am gyfnod o 8 wythnos ac ar ôl hynny byddant yn cael eu tynnu i lawr, gan adael dim ond y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel y ffynhonnell arloesol o fapio perygl llifogydd i Gymru.