Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwella iechyd a llesiant meddyliol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, fel y nodwyd yn ein Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb. Mae'r strategaeth hon yn herio'r Llywodraeth gyfan i ystyried effaith ei holl waith ar iechyd meddwl, gan gydnabod nad drwy’r gwasanaethau iechyd yn unig y bydd modd gwella iechyd a llesiant meddyliol ein poblogaeth.

Er mwyn cefnogi'r dull gweithredu trawslywodraethol ac amlasiantaethol hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ym mis Hydref 2012. Mae'r strategaeth 10 mlynedd yn cynnwys cymorth i bobl o bob oed ar draws Cymru. Ei nod yw gwella llesiant meddyliol y boblogaeth yn gyffredinol a darparu cymorth ac ymyrraeth wedi'u targedu i'r rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl acíwt.

Ategir y strategaeth gan gynlluniau cyflawni tair blynedd sy'n gosod y camau gweithredu i’w cymryd yn ystod y cyfnod. Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad ar Gynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar gyfer 2019-2022. Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar gynlluniau cyflawni blaenorol ac yn ailffocysu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cam olaf ein strategaeth 10 mlynedd.

Er bod y cynllun cyflawni yn amlinellu nifer o feysydd â blaenoriaeth, mae pob un ohonynt yn cyfrannu at gyflawni'r canlyniadau lefel uchel a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Mae rhai o'r camau gweithredu a gynigir yn gofyn am barhau gyda gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli a buddsoddi ynddynt, tra bod meysydd eraill yn ceisio ysgogi newid sylweddol mewn gweithgareddau i atal afiechyd meddwl.

Mae'r cynllun yn adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran:

  • lleihau stigma a chodi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl;
  • lleihau’r derbyniadau i ysbyty oherwydd iechyd meddwl, drwy gynnig mwy o gymorth yn y gymuned;
  • sicrhau lleihad sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n aros am fwy na phedair wythnos i gael cymorth.

Mae’n bwysig nodi bod y gwelliant hwn wedi digwydd er gwaethaf y cynnydd yn y galw am wasanaethau.  

Gosodwyd y blaenoriaethau hyn ar gyfer y tair blynedd nesaf ar ôl ystyried nifer o adroddiadau Pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, mewnbwn hanfodol gan y rhai sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl eu hunain, ac ymgysylltiad ehangach gyda rhanddeiliaid allweddol. Ymysg y blaenoriaethau sydd i'w gweld yn y cynllun mae:

  • cynnal iechyd meddwl a llesiant;
  • gwella mynediad plant a phobl ifanc at gymorth llesiant emosiynol ac iechyd meddwl;
  • gwella gofal mewn argyfwng a’r tu allan i oriau;
  • gwella mynediad at therapïau seicolegol;
  • gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

Ar ben hyn, mae nifer o ffrydiau gwaith cyffredinol a fydd yn parhau y tu hwnt i 2022. Yn eu plith mae gwaith i wella data, canlyniadau, newidiadau i ddeddfwriaeth a mynediad at wasanaethau cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu gweithlu cynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rwyf wedi cynyddu’r cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl i  £679m ar gyfer 2019-20, gan gynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn meysydd allweddol fel datblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned a gwasanaethau iechyd meddwl plant. Rydyn ni hefyd wedi darparu £1.4m o gyllid drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i adeiladu gallu rhanbarthol er mwyn gwella mynediad at weithgareddau atal ac ymyrraeth ar lefel isel i blant a phobl ifanc.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n nodi fy ngweledigaeth hirdymor ar gyfer edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol fel un system gyfan, gan gyflwyno Nod Pedwarplyg fel sail i'r ffordd rydyn ni am weld y system yn datblygu. Rwy'n hyderus bod y cynllun cyflawni hwn yn gyson â’r Nod Pedwarplyg ac yn her i wella iechyd meddwl ar gyfer unigolion a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae achosion ac effaith iechyd meddwl gwael yn gymhleth, a bydd angen gweithredu mewn ffordd integredig ar draws y llywodraeth ac mewn partneriaeth ar draws sectorau i ateb yr her.

Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i'r ymgynghoriad.

Mae'r ymgynghoriad ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/law-yn-llaw-iechyd-meddwl-cynllun-cyflawni-2019-i-2022