Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Sgiliau Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2014. Roedd y Cynllun yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar ddatblygu ein rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

Rwy'n lansio heddiw ymgynghoriad ar sicrhau bod y model prentisiaethau'n gydnaws ag anghenion economi Cymru. Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau gan gyflogwyr, prentisiaid, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â chynllunio a darparu prentisiaethau er mwyn llywio dyfodol y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

Mae gan system brentisiaethau Cymru sawl cryfder.  Mae'n system y dylem oll ymfalchïo ynddi gan fod ansawdd cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ymysg y rhai gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae darparwyr hyfforddiant ar draws y wlad yn cyflawni'r safonau uchaf ar gyfer dysgwyr ac ymddengys fod y bobl sy'n dilyn y rhaglenni hyn yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a'r gwelliannau parhaus hyn. Yn 2012/13, sef y flwyddyn olaf y ceir ffigurau swyddogol ar ei chyfer, cyfradd lwyddo'r fframwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru oedd 87% ar gyfer prentisiaethau ac 85% ar gyfer rhaglenni prentisiaethau sylfaen

Mae angen i ni sicrhau, fodd bynnag, ein bod yn elwa i'r eithaf ar ein buddsoddiad o safbwynt caffael sgiliau a rhaid sicrhau bod y rhaglen yn parhau'n berthnasol i genhedlaeth newydd o bobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn oes dechnolegol. Mae angen cydbwyso hyn â'r galw gan gyflogwyr am sgiliau a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu busnesau, a hefyd gydnabod y rhwystrau ariannol parhaus y mae'r llywodraeth yn eu hwynebu.

Mae economi Cymru'n wynebu cryn newid o safbwynt y mathau o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu neu eu darparu gan fusnesau ynghyd â natur cyflogaeth a chyfleoedd gwaith.  Mae ein datganiad polisi ar sgiliau, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn disgrifio sut y mae angen i ni sicrhau cydbwysedd o fewn yr economi a bodloni'n well anghenion penodol busnesau o safbwynt gweithlu medrus er mwyn gallu cystadlu ar lefel ryngwladol. Mae angen i ni sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer y pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a sicrhau bod prentisiaethau'n berthnasol i'r farchnad. Bydd swyddi'r dyfodol yn gofyn am gymhwysedd ar lefel llawer uwch ac felly mae angen i'n rhaglen brentisiaethau allu wynebu'r her honno a chefnogi twf.

Rhoddir cryn bwyslais ar brentisiaethau lefel 2 ar hyn o bryd a phobl 25 oed a hŷn yw'r rhan fwyaf o brentisiaid.  Ychydig iawn o bobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed sy'n rhan o brentisiaethau ar hyn o bryd ac o'i gymharu ag economïau Ewropeaidd eraill mae nifer llai o gyflogwyr yn cyflogi prentisiaid ac mae'r rhai sydd yn eu cyflogi yn ymwneud yn llai â'r gwaith o'u cynllunio. Yn yr un modd mae'r opsiynau ar gyfer pobl ifanc i ddechrau prentisiaeth lefel 3 mewn pynciau ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn gyfyngedig o'i gymharu â'r gwledydd Ewropeaidd mwy llwyddiannus.  Hoffem weld prentisiaethau'n ennill eu plwyf fel llwybr i swyddi a phroffesiynau uchel eu gwerth a'u bod yn opsiwn arall i bobl ifanc yn lle'r brifysgol. Mae'n hollbwysig fod gan ein rhaglen brentisiaethau, ynghyd â'n prifysgolion, enw da.

Mae'r sefyllfa o safbwynt prentisiaethau ar draws y DU hefyd yn newid. Bydd sawl her ynghlwm wrth raglen Lloegr ar gyfer diwygio prentisiaethau, a fydd yn arwain at ansicrwydd ynghylch datblygu fframweithiau prentisiaethau o fewn y cenhedloedd datganoledig ar sail model sydd wedi dibynnu hyd yma ar gryfder systemau sy'n cael eu rhannu ar draws y DU.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein system brentisiaethau'n gydnaws â systemau eraill y DU fel bod gan brentisiaethau yng Nghymru yr un statws ar draws y DU. O ystyried hyn oll,  mae cyfle gennym yn awr i ddatblygu ein model er mwyn sicrhau bod cynnwys prentisiaethau'n gwbl gydnaws ag anghenion cyflogwyr. Yn ogystal gallai Cymwysterau Cymru, cyn belled ag y caiff ei sefydlu drwy Fil Cymwysterau Cymru, fod â swyddogaeth strategol a gweithredol o safbwynt cynllunio a datblygu prentisiaethau.

Rydym wrthi'n ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn datblygu gwell model ar gyfer prentisiaethau yn y dyfodol. Dyma gyfle i lywio dyfodol ein rhaglen brentisiaethau. Gallwn greu model mwy effeithiol sy'n adlewyrchu anghenion cyflogwyr ac sy'n darparu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn sail i'r gwaith o ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer datblygu prentisiaethau yng Nghymru. Bwriedir cyhoeddi'r rhain yn haf 2015.

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori ar lein.