Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Prif Ystadegydd heddiw yn lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o gynigion yn ymwneud â chyhoeddiadau ystadegau swyddogol.

Mae ystadegau swyddogol yn cyflawni rôl hanfodol sy’n cynorthwyo’r llywodraeth a defnyddwyr eraill i wneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, cynllunio a deall effeithiolrwydd polisi. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amrediad mawr o allbynnau ystadegol, tua 500 y flwyddyn, a ddefnyddir yn ddyddiol gan lywodraeth, y Cynulliad, awdurdodau lleol, busnes, y byd academaidd, y gwasanaeth iechyd, y sector addysg a’r cyfryngau.  

Mae’r galw am dystiolaeth a data wedi cynyddu’n gyflym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi ehangu a datblygu eu gwaith. Mae technolegau newydd, data agored a lledaenu electronig hefyd wedi newid y ffordd y cyhoeddir ystadegau.

Mae ymgynghoriad y Prif Ystadegydd yn amlygu’r meysydd ble byddwn yn gwneud newidiadau mewn ymateb i’r amgylchedd newidiol trwy wneud rhagor o ddefnydd o ledaenu electronig, osgoi dyblygu, cydweithio ar draws terfynau sefydliadau a lleihau gwaith sy’n llai gwerthfawr. 

Ni fydd y cynigion yma yn effeithio ar y rhan fwyaf o waith ystadegwyr Llywodraeth Cymru.

O dan y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, mae’n ofynnol ymgynghori ar newidiadau i gynnyrch ystadegol. Lansiwyd yr ymgynghoriad heddiw ac fe fydd yn parhau am 12 wythnos. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Mawrth 3ydd.

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae croeso i holl ddefnyddwyr yr ystadegau ymateb i’r ymgynghoriad a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Prif Ystadegydd.