Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Ar 21 Mai cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth y Papur Gwyn Tai: Papur Gwyn ar gyfer Bywydau Gwell a Chymunedau Gwell. Mae’n amlinellu strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, o safon dda ar gael i bawb yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i foderneiddio’r sector rhentu preifat drwy gyflwyno mesurau i wella safonau rheoli eiddo a chyflwr eiddo.  

Un o’r amryw feysydd sy’n derbyn sylw yn y Papur Gwyn yw eiddo gwag. Dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt yn 2010 y bydd angen 284,000 yn fwy o gartrefi newydd ledled Cymru erbyn 2026. Cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru astudiaeth yn 2010 hefyd, a amcangyfrifodd fod 22,000 eiddo yng Nghymru wedi bod yn wag am fwy na chwe mis.  

Byddai defnyddio eiddo gwag o’r fath unwaith eto yn cyfrannu’n sylweddol at fodloni’r galw am dai a ragwelir. Gallai hefyd arwain at fanteision o ran gwella’r economi leol, yr amgylchedd a’r cymunedau y mae’r eiddo dan sylw yn rhan ohonynt. Gall eiddo gwag ddifetha cymunedau lleol, gan fynd i edrych yn hyll os byddant yn dadfeilio neu’n cael eu fandaleiddio.

Un o’r dulliau y mae’r Papur Gwyn yn eu cynnig felly yw ehangu pwerau llywodraeth leol i gymhwyso lefelau amrywiol o dreth gyngor i eiddo gwag yng Nghymru. Cynigir bod Gweinidogion Cymru yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol godi lefel uwch na’r dreth gyngor lawn safonol ar gartrefi y bernir iddynt fod yn wag am gyfnod maith. Byddai’r cynnig yn rhoi mwy o ryddid i awdurdodau ddilyn polisïau sy’n gweddu orau i amgylchiadau lleol, a’r polisïau a allai eu helpu fwyaf i ddatrys problemau tai lleol.  

A minnau’n gyfrifol am Lywodraeth Leol a Chymunedau, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith andwyol y gall diffyg tai ei chael – ar y bobl dan sylw, ar gymunedau ac ar lywodraeth leol hefyd. Felly rwy’n lansio’r ymgynghoriad hwn er mwyn gwahodd aelodau’r cyhoedd i roi eu barn ar ddefnyddio’r system dreth gyngor fel cymhelliant posibl i ddefnyddio eiddo sydd wedi bod yn wag ers amser maith unwaith eto, a darparu tai ychwanegol y mae cryn angen amdanynt. Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn gofyn am awgrymiadau ynghylch yr agweddau technegol a allai fod ynghlwm â rhoi’r pŵer ychwanegol hwn i awdurdodau lleol, gan gynnwys diffinio’r cyfnod y mae eiddo yn wag cyn y gellir codi treth ychwanegol.

Cynhelir yr ymgynghoriad dros gyfnod o dri mis a gofynnir am eich ymatebion erbyn 20 Hydref 2012. Mae’r papur ymgynghori yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, landlordiaid cymdeithasol, asiantaethau cynghori a sefydliadau perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn trethi lleol a lles dinasyddion.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau. Os bydd yr aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn falch o wneud hynny.